Gosod Amcanion

Dylai fod o leiaf 3 ac uchafswm o 6 o amcanion cytunedig. Dylai pob amcan nodi pa un o’r meysydd canlynol y mae’n ymwneud â:

  • Amcan Cysylltiedig â Swydd • Amcan Perfformiad Personol neu Ddatblygiad Personol • Amcan Tîm neu Wasanaeth

Nid yw gosod amcanion yn golygu nodi pob gweithgaredd neu dasg. Dylai rheolwyr llinell ddethol disgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu.

Er mwyn gallu gwneud dyfarniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dylai’r rheolwr llinell ddefnyddio’r mesur CAMPUS yn erbyn yr holl amcanion. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Yn ystod y cyfarfod, dylai’r rheolwr llinell a’r gweithiwr gytuno ar y canlynol:

  • Manylion yr amcan • Y weithdrefn fonitro • Y ffynonellau gwybodaeth a data ar gyfer asesu a yw’r amcanion wedi’u bodloni • Y dyddiad y mae’n rhaid cyflawni’r canlyniad

Mae’n bwysig casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol er mwyn sicrhau bod dyfarniadau cadarn yn cael eu gwneud.