Adolygu Amcanion

Dylid adolygu’r amcanion pob yn un, gan ystyried barn y gweithiwr.

Dylai’r adborth a roddir fod yn glir ac yn adeiladol, ac yn seiliedig ar ddata neu arsylwadau penodol a chadarn. Rhaid i unrhyw farn a fynegir yn y gwerthusiad a’i gofnodi ar y ffurflen gael ei ategu gan dystiolaeth.

Fel rheol, caiff amcanion eu hadolygu dros gyfnod o 12 mis, fodd bynnag efallai y bydd amgylchiadau lle na all y dasg gychwyn ar unwaith, neu efallai y bydd cyfnod disgwyliedig ar gyfer y tasgau yn llawer byrrach na 12 mis. Dylid nodi’r dyddiad cychwyn / diwedd disgwyliedig ar gyfer yr amcanion ar y ddogfen arfarnu.

Yn yr un modd, bydd rhai tasgau yn para am gyfnod hirach. Dylid cofnodi hyn hefyd ar y ddogfen arfarnu, a’i drosglwyddo i’r cyfnod gwerthuso canlynol yn ystod y cyfarfod arfarnu diwedd blwyddyn.