Anghenion Dysgu a Datblygu

Gall anghenion dysgu a datblygu gynnwys profiad gwaith, cysgodi cydweithwyr, gwaith tîm a gweithgaredd grŵp a hunan-ddatblygiad yn ogystal â gweithgareddau hyfforddiant ffurfiol a ddylai fod yn berthnasol i swydd bresenol y gweithiwr. Ar gyfer amcanion dysgu a datblygu cytûn, dylai’r gweithiwr a’r rheolwr llinell gydweithio i nodi cyfleoedd datblygu mewnol ac allanol.
Sylwch fod pob Gwasanaeth unigol yn gyfrifol am eu cyllideb hyfforddi, felly dylai rheolwyr llinell sicrhau bod ganddynt gymeradwyaeth y Pennaeth Gwasanaeth.

Dylai’r rheolwr-llinell adolygu’r cyrsiau hyfforddi a gynigir yn rheolaidd, oherwydd gall anghenion hyfforddi a adnabyddwyd gael eu hychwanegu at yr amserlen maes o law. Bydd AD yn adolygu’r data arfarnu yn flynyddol i nodi anghenion hyfforddiant corfforaethol cyffredinol ar gyfer y flwyddyn ganlynol.