Eich Amser Gwaith

Mae oriau gwaith pob gwasanaeth yn adlewyrchu anghenion a gweithgareddau’r gwasanaeth hwnnw. Bydd proffil gwaith cytûn gan bob gweithiwr sy’n amlinellu ei batrwm gwaith, lleiafswm gwarantedig yr oriau contract a’r cyflog sylfaenol. Ar gyfer staff rhan-amser, caiff yr oriau blynyddol a’r gwyliau eu cyfrifo’n gymesur ag oriau amser llawn. Mae’n rhaid i unrhyw batrwm gwaith ystyried rheolau Cyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewrop sy’n rheoli oriau gwaith wythnosol a seibiannau gorffwys, ac unrhyw reolau eraill sy’n gysylltiedig â swyddi sy’n ymwneud â seibiannau gorffwys. O dan Gyfarwyddeb Oriau Gwaith yr Undeb Ewropeaidd mae hawl gan bob gweithiwr i’r canlynol:
  • terfyn i’r oriau gwaith wythnosol, heb fod yn fwy na 48 awr ar gyfartaledd, gan gynnwys unrhyw oramser (trwy gwblhau cytundeb eithrio-allan gallwch weithio dros y swm hwn cyn belled â’ch bod yn bodloni’r cyfnodau gorffwys isod. Mae ffurflen eithrio ar gael yma.)
  • cyfnod gorffwys dyddiol lleiaf o 11 awr olynol ym mhob 24 awr
  • seibiant gorffwys o 20 munud yn ystod oriau gwaith, os yw’r gweithiwr ar ddyletswydd am fwy na chwe awr
  • cyfnod gorffwys wythnosol sylfaenol o 24 awr yn ddi-dor am bob cyfnod o saith niwrnod (neu 48 awr bob pythefnos)
  • amddiffyniad ychwanegol yn achos gwaith nos (er enghraifft, ni all oriau gwaith cyfartalog fod yn fwy nag 8 awr am bob cyfnod o 24 awr; ni all gweithwyr nos wneud gwaith trwm neu beryglus am fwy nag 8 awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr;

Oriau safonol

Wythnos waith safonol ar gyfer gweithiwr amser llawn yw 37 awr dros 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn.

Staff nos

Mae staff nos sydd dan gontract am 73.5 awr y pythefnos yn cael eu hystyried yn weithwyr amser llawn.

Patrymau gwaith eraill

Gallai’r rhain gynnwys gweithio yn ystod y tymor, oriau dwys, rhan-amser, rhannu swydd, oriau blynyddol ac ati. Mae manylion pellach ar gael yn y Polisi Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith sydd ar gael yma.