Amser o’r gwaith yn lle tâl

Os bydd staff yn gorfod gweithio ar wyliau cyhoeddus neu ar wyliau allstatudol neu y tu allan i derfynau dyddiol y cynllun oriau hyblyg, h.y. 7.30am hyd 7.00pm, cânt amser i ffwrdd o’r gwaith ar ddyddiad diweddarach trwy drefniant gyda’u rheolwr ar gyflog a fydd yn hafal i’r oriau y buont yn eu gweithio.

Mae Amser i Ffwrdd yn Lle Tâl (TOIL) yn seiliedig ar amser safonol yn unig beth bynnag fo’r diwrnod a weithiwyd. Mae’n rhaid cymryd Amser i Ffwrdd yn Lle Tâl (TOIL) o fewn 13 o wythnosau a bydd angen caniatâd ymlaen llaw.

Ffurflen TOIL