Amser o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau

Amser o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau meddygol

Os nad oes modd mynd i apwyntiadau y tu allan i’r oriau arferol bydd cyfnod o hyd at ddwy awr yn cael ei ganiatáu ar gyfer apwyntiadau meddygol arferol. Bydd unrhyw amser dros ben y ddwy awr a ganiateir ar gyfer apwyntiad yn cael ei ddebydu o’r daflen hyblyg. Lle bo hynny’n bosibl, dylai’r staff sicrhau eu bod yn mynd i apwyntiadau y tu allan i’r oriau craidd (h.y. cyn 11.00am neu ar ôl 3.00pm).

Bydd apwyntiadau yn yr ysbyty’n cyfrif fel apwyntiadau â thâl ond bydd angen dangos cerdyn neu lythyr apwyntiad yr ysbyty fel prawf. Os oes angen cyfrinachedd arnoch cysylltwch â’r Adain Adnoddau Dynol Corfforaethol.

Amser o’r Gwaith – Apwynt-iadau Deintyddol ac Optegol

Lle bo hynny’n bosibl, dylai’r staff sicrhau bod apwyntiadau’n cael eu gwneud y tu allan i’r oriau craidd (h.y. cyn 11.00am neu ar ôl 3.00pm).
Os nad oes modd gwneud apwyntiadau y tu allan i’r oriau craidd bydd cyfnod o 2 awr ddwywaith y flwyddyn yn cael eu caniatáu ar gyfer apwyntiadau deintyddol a 1 awr unwaith y blwyddyn ar gyfer apwyntiadau opetgol.

Os yw’n briodol caiff unrhyw oriau ychwanegol eu debydu o’r daflen hyblyg.

Noder: Gall cyflogeion sy’n gyson yn defnyddio offer sgrin arddangos fel rhan sylweddol o’u gwaith arferol hawlio ad-daliad ffioedd ar gyfer Gwasanaethau Optegol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Amser o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau eraill cysylltiedig ag iechyd

Mae’n rhaid i bob apwyntiad arall cysylltiedig ag iechyd (e.e. therapïau amgen ac ati) gael eu cymryd yn ystod amser y gweithiwr ei hun.