Amser o’r Gwaith ar gyfer Hyfforddiant/Astudio

Amser o’r Gwaith ar gyfer Hyfforddiant

Telir y cyflog arferol yn llawn (fel y’i defnyddir i gyfrifo taliadau am gyfnodau o salwch) am ddilyn cyrsiau amser llawn, diwrnodau astudio a chyrsiau byr sy’n arwain at gymwysterau cymeradwy sy’n cynnwys amser a gytunwyd er mwyn ennill Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a hefyd am ddilyn cyrsiau a seminarau nad ydynt yn arwain at gymwysterau cymeradwy.

Ni thelir unrhyw lwfansau’n fwy na diwrnod gwaith amser llawn safonol ar gyfer presenoldeb nac amser teithio.

Gweler y Strategaeth Hyfforddi a Datblygu, sydd ar gael yma.

Amser o’r gwaith ar gyfer Astudio

Yn amodol ar ofynion y gwasanaethau ac yn ôl eu disgresiwn:

  • Cyrsiau Cymhwyster Coleg Traddodiadol – Uchafswm o 1 diwrnod i bob arholiad gyda chydsyniad Pennaeth y Gwasanaethau. Nid yw absenoldeb astudio yn cynnwys ysgrifennu unrhyw adroddiadau rheoli, traethodau hir nac unrhyw fath arall o waith asesu.
  • Dysgu o Bell – Yr un fath â chyrsiau coleg a hefyd elfennau preswyl sy’n digwydd ar ddiwrnodau gwaith.
  • Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn y gwaith – Mae hyn yn anodd i’w fesur oherwydd y gofynion ond fel rheol mae isafswm o 1½ diwrnod yr uned fesul lefel i helpu paratoi, mynegeio ac ati yn ogystal ag unrhyw amser sy’n ofynnol i fynychu digwyddiadau sy’n rhoi sylw i anghenion hyfforddi cysylltiedig.
  • Ailsefyll arholiadau – Dim lwfans.

Gweler y Strategaeth Hyfforddi a datblygu sydd ar gael yma.