Oriau hyblyg

Mae’r Cynllun Oriau Hyblyg ar gael i’r holl staff yn ôl disgresiwn ac mae’n cael ei gynnig i bob gweithiwr y mae ei drefniadau gwaith yn caniatáu elfen o hyblygrwydd. Felly, mae’n bosibl na fyddai’n addas i weithwyr y mae eu dyletswyddau’n gofyn am batrwm gwaith sefydlog.

Mae llwyddiant y Cynllun yn dibynnu’n gyfan gwbl ar synnwyr cyffredin ac ewyllys da ar ran y staff ac mae’n rhaid ei weithredu’n ôl gofynion y gwasanaeth. Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i ofynion y gwasanaeth bob amser ac felly bydd angen cydsyniad eich rheolwr llinell arnoch chi cyn i chi amrywio eich amserau dechrau/gorffen a chyn cymryd unrhyw oriau hyblyg.

Ffiniau’r Cynllun

Yr oriau gwaith arferol ar gyfer gweithiwr cyfwerth ag amser llawn yw:

Llun – Iau: 8:45 i 13:00 & 13:45 i 17:00

Dydd Gwener: 8:45 i 13:00 & 13:45 i 16:30

Yr oriau Craidd:

Ar bob diwrnod gwaith, mae’n rhaid cwblhau o leiaf 4 awr o waith, gan gynnwys o leiaf 2 awr o waith cyn 1:00pm a 2 awr o waith ar ôl 1:00pm.

Er enghraifft, gallech weithio o 9am hyd 11am ac o 1pm hyd 3pm heb orfod gofyn am absenoldeb oriau hyblyg. O dan y cynllun ni ellir gweithio mwy na 6 awr heb seibiant am o leiaf hanner awr. Gellir gweithio oriau hyblyg rhwng yr 7:30am a 7:00pm. Mae’n rhaid i weithwyr gofnodi unrhyw seibiannau, h.y. sigarét, brecwast ac ati ar eu taflenni hyblyg.

Cyfnod y Cyfrifyddu:

8 wythnos yw’r cyfnod cyfrifyddu ac mae’n seiliedig ar o 296 o oriau gwaith o dan gontract amser llawn dros y cyfnod hwnnw a pro rata ar gyfer gwaith rhan-amser.

Oriau Credyd/Debyd a Chario Drosodd:

Gallwch gario drosodd uchafswm o 16 awr o gredyd neu 8 awr o ddebyd o’r naill gyfnod cyfrifyddu i’r llall. Bydd unrhyw oriau uwchben 16 awr yn cael eu colli ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu. Os byddwch yn cronni mwy nag 8 awr o ddebyd heb wneud trefniant rhesymol ymlaen llaw, gellid rhoi’r drefn ddisgyblu ar waith.

Ar gyfer gweithwyr rhan-amser bydd uchafswm y credyd a’r debyd yn cael ei gyfrifo ar sail pro rata gan ddibynnu ar yr oriau yr ydych yn cael eich cyflogi i’w gweithio.

Absenoldeb oriau hyblyg

Gallwch gymryd hyd at 2 ddiwrnod llawn a 4 hanner diwrnod o absenoldeb oriau hyblyg yn ystod pob cyfnod cyfrifyddu gyda chydsyniad eich rheolwr llinell. Ni ellir cymryd oriau hyblyg petai hynny’n arwain at ddebyd o fwy nag 8 awr.

Ysmygu:

O ran trin ysmygwyr yn gyfartal ac er tegwch i’r rhai nad ydynt yn ysmygu ac nad ydynt yn cael seibiannau swyddogol o’r gwaith, mae’n rhaid i’r staff gymryd pob “seibiant ysmygu” yn eu hamser eu hunain.

Os bydd amlder a hyd y seibiannau hynny’n mynd yn ormodol, ac yn amharu ar ddarpariaeth y gwasanaeth, bydd yr Uwch Reolwyr yn gosod cyfyngiadau ar y staff dan sylw. Gweler y polisi Dim Ysmygu i gael rhagor o wybodaeth.

Camddefnyddio’r Cynllun:

Gall camddefnyddio’r cynllun arwain at gamau disgyblu a thynnu’n ôl oriau hyblyg y gweithiwr.

Os yw absenoldeb oriau hyblyg hanner diwrnod wedi ei gytuno, mae’n rhaid i bob gweithiwr gwblhau o leiaf 2 awr o waith cyn 1:00pm yn achos absenoldeb prynhawn ac o leiaf 2 awr o waith ar ôl 1:00pm yn achos absenoldeb bore.

DOGFEN DEFNYDDIOL

Ffurflen Fflecsi

Canllawiau Ffurflen Fflecsi