Ymwybyddiaeth o Ddementia gan ddefnyddio Realiti Rhithwir

Dyluniwyd y cwrs yma er mwyn cefnogi a hysbysu gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol a staff cynorthwyol sydd yn gofalu am oedolyn sydd a Dementia. Gan ddefnyddio clustffonau realiti rhithwir, bydd y sesiwn yn archwilio profiad person o Ddementia, a’i draweffaith, ynghyd a goblygiadau cwrdd a’u hanghenion gofal a chymorth. Fe fydd cyfle hefyd i ystyried a rhannu ymarfer da a myfyrio ar faterion cyd-destunol pobl sydd yn byw yng Ngheredigion ac yng Nghymru.

Amcanion:

  • Deall natur a thraweffaith Dementia ar y person ac ar eu teuluoedd
  • Deall profiadau pobl sydd a Dementia gan ddefnyddio Realiti Rhithwir
  • Myfyrio ar y ffordd orau i ddarparu gofal a chefnogaeth i unigolion, eu gofalwyr a’u teuluoedd

20/05/2026, 10:00–13:00, Ystafell Caron – Penmorfa, Aberaeron

26/06/2026, 10:00–13:00, Ystafell Caron – Penmorfa, Aberaeron

15/07/2026, 10:00–13:00, Ystafell Caron – Penmorfa, Aberaeron

02/09/2026, 10:00–13:00, Ystafell Caron – Penmorfa, Aberaeron