Nodwch y bydd yr holl ddigwyddiadau hyfforddi yn cael eu darparu’n rhithiol oni nodir yn wahanol.
Gallwch weld ein hamserlen o ddigwyddiadau drwy glicio ar y tab ‘Hyfforddiant’.
Mae Terrence Higgins Trust Cymru yn falch o gyhoeddi lansiad cwrs hyfforddiant ar-lein newydd, am ddim, ar gyfer gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Datblygwyd yr hyfforddiant mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru yn ganolog i’r hyfforddiant ar gyfer staff sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda HIV yn y gymuned ac mewn cartrefi gofal ledled Cymru.
Nod y cwrs yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o HIV, sut mae’n cael ei basio ymlaen a’r neges “Ni all basio ymlaen’/Anghanfyddadwy = Anhrosglwyddadwy”. Mae hyn yn cefnogi staff i ddarparu gofal rhagorol i bobl sy’n byw gyda HIV sy’n cael mynediad i gymorth, nawr ac yn y dyfodol.
Gellir cael mynediad at yr hyfforddiant drwy wefan Terrence Higgins Trust Cymru.