Nodwch y bydd yr holl ddigwyddiadau hyfforddi yn cael eu darparu’n rhithiol oni nodir yn wahanol.
Gallwch weld ein hamserlen o ddigwyddiadau drwy glicio ar y tab ‘Hyfforddiant’.
Cyn mynychu’r hyfforddiant hwn mae’n rhaid eich bod wedi cwblhau’r cyrsiau Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod gan ddefnyddio Realiti Rhithwir ac Arferion sy’n Ystyriol o Drawma gan ddefnyddio Realiti Rhithwir.
Wrth weithio gyda theuluoedd a phlant sy’n wynebu trawma, rydym yn aml yn dod ar draws rhieni sydd hefyd wedi wynebu trawma. Hefyd, rydym yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yn y gwasanaethau iechyd meddwl, y gwasanaethau sy’n cynnig help i bobl sy’n gaeth i gyffuriau/alcohol a’r gwasanaethau cyfiawnder troseddol ac mae trawma yn ystod plentyndod yn dal i effeithio ar nifer o’r oedolion bregus hyn.
Amcanion:
25/06/2026, 10:00–13:00, Ystafell Caron – Penmorfa, Aberaeron