Rhowch eich barn am weithio mewn gofal cymdeithasol

Ar gyfer rheolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol

Mae tîm ymchwil o Brifysgol Caerdydd yn edrych i recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol i gymryd rhan mewn cyfweliadau fel rhan o arolwg Dywedwch Eich Dweud.

Maent yn awyddus i glywed am eich profiadau o weithio mewn rolau gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Mae’r tîm yn awyddus iawn i siarad gydag unigolion rhwng 18 a 25 oed. Mae yna daleb o £20 Love2shop ar gael i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Cysylltwch â Sarah Atkinson os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan: Sarah.Atkinson@socialcare.wales