Gofal o ran Anymataliaeth a Briwiau Pwyso

Bydd y cwrs yn ymdrin ag agweddau sylfaenol anymataliaeth, beth ydyw, pam ei fod yn digwydd a sut yr ydym yn gofalu am gleientiaid sy’n anymataliol.

Bydd y gofal ar gyfer briwiau pwyso yn trafod beth yw briwiau pwyso, sut mae cleientiaid yn eu datblygu, beth yw’r risgiau i’r cleient a beth all gofalwyr ei wneud i’w hatal rhag digwydd.

Amcanion:

  • Deall anymataliaeth
  • Sut allwn ni helpu cleient sy’n anymataliol
  • Beth yw briwiau pwyso
  • Sut mae briwiau pwyso yn datblygu
  • Sut allwn ni atal briwiau pwyso rhag digwydd

16/10/2026, 13:00–15:30, Ystafell Ystwyth – Penmorfa, Aberaeron