Ffordd – Adnodd Lles Newydd ar gyfer y Gweithlu Iechyd Meddwl

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio Ffordd, sef hwb lles digidol ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl. Gan cyd-fynd â Chynllun Strategol y Gweithlu Iechyd Meddwl ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, mae Ffordd wedi’i chynllunio i gryfhau gwydnwch, meithrin hyder a chefnogi diogelwch seicolegol ledled Cymru. Mae’n dod â gwybodaeth ddibynadwy, offer ymarferol ac arweiniad tosturiol at ei gilydd mewn un lle hawdd ei ddefnyddio.

Gallwch archwilio Ffordd yma:  Ffordd – Cefnogaeth ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – AaGIC