Cwrs Cymraeg Sylfaenol ar gyfer Darparwyr Gofal Cymdeithasol

Wedi’i ddysgu mewn dull llafar, mae’r cwrs hwn yn cynnwys 3 sesiwn o 2 awr o ddysgu yr un. Bydd y sesiynau hyn yn darparu ymadroddion Cymraeg sylfaenol, cyfarchion a therminoleg i chi.

Bydd y cwrs hefyd yn cyfeirio’n uniongyrchol at gwrs hunan-astudio ar-lein y Ganolfan Genedlaethol, ‘Sector Gofal: Rhan 1 a 2’. Gallwch gwblhau’r cwrs yn unol a’ch amserlen chi, a bydd yn darparu mwy o dermau hanfodol ar gyfer y sector Gofal Cymdeithasol.

Mae pob sesiwn  wedi’i chynllunio i’ch galluogi i gyflawni gwaith a chyfathrebu yn yr iaith. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu llunio brawddegau syml bob dydd, trafod pynciau proffesiynol a hamdden cyffredin, a chael mynediad at dermau ac ymadroddion sy’n benodol i’r sector.

Amcanion:

  • Dysgu’r pethau sylfaenol i chi yn y Gymraeg
  • Eich galluogi i siarad a defnyddio’r iaith gan gychwyn ar y daith i fod yn rhugl
  • Cyflwyno termau allweddol y sector Gofal Cymdeithasol

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein ar y dyddiadau isod. Nydd angen i chi fynychu’r 3 sesiwn.

05/09/2025, 10:00–12:00

12/09/2025, 10:00–12:00

19/09/2025, 10:00–12:00