Arwyddion a Dangosyddion Cam-drin Plant yn Rhywiol

Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno gweithwyr proffesiynol i’r Templed Arwyddion a Dangosyddion ac yn rhoi cyfle iddynt ei ddefnyddio’n ymarferol. Ei nod yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant weithredu pan fydd ganddynt bryderon am blentyn.

Yn dilyn y weminar, gallwch ddisgwyl cael:

  • Dealltwriaeth o’r Templed Arwyddion a Dangosyddion a sut i’w ddefnyddio’n ymarferol
  • Y gallu i adeiladu darlun o bryderon pan fyddwch yn poeni bod plentyn yn cael ei gam-drin yn rhywiol, neu wedi cael ei gam-drin yn rhywiol
  • Mwy o wybodaeth am arwyddion emosiynol, ymddygiadol a chorfforol cam-drin rhywiol ac ymddygiad rhywiol camdriniol, yn ogystal â’r ffactorau sy’n cynyddu bregusrwydd plant i’r math hwn o niwed
  • Mwy o hyder wrth adnabod, trafod, archwilio a chyfleu pryderon bod plentyn yn cael ei gam-drin yn rhywiol

11/11/2026, 09:00– 10:30 (Hyfforddiant Rhithwir)