Ymwybyddiaeth Oedran a Gwahaniaethu ar Sail Oedran

Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth Oedran Age Cymru wedi’i ddatblygu ar gyfer y rhai sy’n siarad â phobl hŷn yn rheolaidd trwy eu gwaith i wella’r profiad o’r gwasanaeth. Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich arfogi chi â’r offerynnau a’r mewnwelediadau i wella eich gwasanaeth ar gyfer cleientiaid hŷn ac yn eich cefnogi i wneud eich gwasanaeth yn fwy cynhwysol a chroesawgar.

Amcanion:

  • Diffinio rhagfarn oedran a gwahaniaethu ar sail oedran
  • Adnabod rhwystrau a all achosi gwahaniaethu ar sail oedran ac atal pobl hŷn rhag cyflawni cydraddoldeb oedran
  • Archwilio ymwybyddiaeth oedran a gwasanaethau cwsmeriaid

15/09/2026, 10:00–12:00 (Hyfforddiant Rhithwir)

02/12/2026, 14:00–16:00 (Hyfforddiant Rhithwir)