Nodwch y bydd yr holl ddigwyddiadau hyfforddi yn cael eu darparu’n rhithiol oni nodir yn wahanol.
Gallwch weld ein hamserlen o ddigwyddiadau drwy glicio ar y tab ‘Hyfforddiant’.
Mae’r sesiwn hyfforddi/wybodaeth aml-asiantaeth hon sy’n hanner diwrnod o hyd, wedi’i datblygu i gefnogi ymarferwyr mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau i gynyddu eu dealltwriaeth o gyfrifoldebau diogelu wrth weithio gyda phlant a theuluoedd. Bydd y sesiwn yn darparu gwybodaeth ar sut i gwblhau MARF, gan adeiladu dealltwriaeth o bwrpas MARF a mwy o ymwybyddiaeth o rannu gwybodaeth a gweithio cydweithredol aml-asiantaethol. Bydd y sesiwn yn cynnwys dolenni i’r Dogfen Gymorth Trothwy a Chymhwysedd CYSUR wedi’i diweddaru “Y Cymorth Iawn ar yr Amser Iawn” (The Right Help at the Right Time) a bydd yn ystyried themâu o ymarfer.
Mae’r sesiwn wedi’i anelu at rannu gwybodaeth mewn perthynas â chwblhau MARF a bydd yn cynnwys rhywfaint o waith unigol a grŵp i ganiatau i ymarferwyr archwilio themâu a datblygu eu dealltwriaeth, gan adeiladu hyder a chymhwysedd.
Amcanion:
09/09/2026, 13:30–16:30 (Hyfforddiant Rhithwir)