Deall Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol

Os ydych chi’n cynorthwyo pobl sy’n wynebu rhwystrau i siarad drostynt eu hunain ac sy’n wynebu prosesau asesu, cynllunio, adolygu neu ddiogelu (fel oedolion neu rieni) o ran eu gofal cymdeithasol a’r gefnogaeth a ddarperir iddynt, neu fod cwyn ddiweddar am unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi ddeall gwaith Gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol y Tair Sir.

Trwy fynychu’r sesiwn gwybodaeth hon, cewch wybod mwy am y gwasanaeth rhad ac am ddim a chyfrinachol hwn, beth yw eiriolaeth annibynnol, sut y gall helpu’r bobl rydych chi’n eu cynorthwyo, a sut y gallwch gyfeirio rhywun at y gwasanaeth.

20/05/2026, 09:30–10:30 (Hyfforddiant Rhithwir)

13/07/2026, 09:30–10:30 (Hyfforddiant Rhithwir)

13/07/2026, 09:30–10:30 (Hyfforddiant Rhithwir, Cyfrwng Cymraeg)

20/10/2026, 09:30–10:30 (Hyfforddiant Rhithwir)

20/10/2026, 09:30–10:30 (Hyfforddiant Rhithwir, Cyfrwng Cymraeg)