Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd / Y Polisi Recriwtio Diogel

Mae dyletswydd ar Gyngor Sir Ceredigion i ddiogelu plant ac oedolion bregus wrth ddarparu gwasanaethau iddynt. Felly, mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i sicrhau bod ganddo weithdrefnau clir a chadarn o ran penderfynu ynglŷn ag addasrwydd pob un o staff y Cyngor yn ogystal â gwirfoddolwyr fel rhan sylfaenol o’r broses recriwtio a phenodi a thu hwnt.

Mae’r polisi hwn yn gosod safonau’r Cyngor o ran recriwtio a chyflogi pobl sy’n dymuno gweithio gyda grwpiau bregus (plant ac/neu oedolion) a sicrhau eu diogelwch. Mae’n cynnwys holl staff Cyngor Sir Ceredigion, unigolion a sefydliadau eraill, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cyflogi yn ysgolion Ceredigion ac felly byddem yn argymell y dylai’r Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu hefyd. Mae’n ategu’r Polisi Recriwtio a Dewis a chanllawiau Recriwtio Diogel yr Ysgolion sy’n gosod yr archwiliadau ehangach sy’n cael eu gwneud cyn cyflogi neb.

Cliciwch yma