Rheoli Perfformiad

Mae’r unigolion a’r timau’n bwysig iawn o ran gwneud gwaith y Cyngor yn fwy effeithiol. Y sawl sy’n gweithio agosaf gyda’r unigolion a’r timoedd hynny yw’r un i gael y gorau o’r unigolion a’r timau – sef y rheolwr llinell.

Y rheolwr llinell yw’r un gorau i siarad â’r staff, gwrando ar eu pryderon, eu cynghori a’u hyfforddi, sicrhau eu bod yn cyrraedd eu targedau a’u bod yn ymroddedig i’r gwaith. Mae llwyddiant y system rheoli perfformiad yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y rheolwyr llinell. Gallant helpu cysylltu amcanion y Cyngor â pherfformiad y gweithiwr trwy eu gosod yng nghyd-destun gwaith yr unigolyn.

ACAS

Mynd i’r afael â Pherfformiad Gwael

Mae’n anodd iawn mynd i’r afael â pherfformiad gwael ymhlith y staff. Mae perfformiad gwael yn dod i’r amlwg fel a ganlyn:

  • perfformiad anfoddhaol yn y gwaith, hynny yw, methu â chyflawni dyletswyddau’r swydd neu’u perfformio i’r safon sangenrheidiol
  • ddim yn cydymffurfio â pholisïau, rheolau a gweithdrefnau’r gweithle
  • ymddygiad annerbyniol yn y gweithle
  • ymddygiad trafferthus neu anfoddhaol sy’n effeithio ar gydweithwyr

Dyw perfformiad gwael ddim yr un peth â chamymddwyn. Mae camymddwyn yn beth difrifol iawn e.e. lladrata neu ymosod a gallai rhywun gael ei ddiswyddo ar unwaith amdano. Mewn achosion o gamymddwyn dylai’r rheolwyr droi at y Canllawiau Disgyblu.

I gael arweiniad ynghylch deall y gwahaniaeth rhwng gallu ac ymddygiad cliciwch yma.

Mae delio â pherfformiad gwael yn gallu bod yn anodd i reolwyr a staff fel ei gilydd, ond mae’n rhaid gwneud rhywbeth yn ei gylch yn gyflym ac yn briodol. Mae problemau bach yn gallu mynd yn broblemau mawr dros amser a gallant effeithio ar y gweithle. I gael arweiniad ynghylch perfformiad gwael  cliciwch yma .