Deall y gwahaniaeth rhwng Medusrwydd ac Ymddygiad

Mae gennym wahanol weithdrefnau i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â gallu a chamymddygiad ac mae’n bwysig gwybod pa weithdrefn i’w defnyddio mewn achosion neilltuol.

Defnyddiwch y Drefn Ddisgyblu i ddelio â materion sy’n ymwneud ag ymddygiad. Y rheswm dros hynny yw mai’r dybiaeth yw bod ymddygiad yn rhywbeth y mae’r gweithiwr yn gallu ei reoli ac y bydd yn gallu gwella pethau gydag ychydig o help. Mae cyngor i Reolwyr am hyn yma.

O ran materion sy’n ymwneud â gallu’r gweithiwr y dybiaeth yw o bosib bod y mater y tu hwnt i’w reolaeth ac felly mae angen ystyried gwahanol opsiynau/cymorth. Mae cyngor i’w gael yma.

Os oes gan y gweithiwr bryder, problem neu gŵyn sy’n ymwneud â’r gwaith neu gydweithiwr yn y gwaith, mae hynny’n gallu effeithio ar berfformiad hefyd ac mae’n bwysig rhoi sylw teg i’r materion hynny mewn da bryd a thrwy’r Drefn Gwyno fewnol lle bo hynny’n bosibl.

Mae hefyd yn bwysig nodi beth sy’n bod oherwydd hynny sy’n penderfynu pa drefn i’w dilyn, a dyw hynny ddim yn wastad yn amlwg. Os ydych chi’n ansicr gofynnwch am gyngor gan yr Adnoddau Dynol.