Y Strategaeth Gaffael
Mae caffael yn ymwneud â chaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau. Mae’r Strategaeth hon yn disgrifio manteision Caffael i’r Cyngor fel a ganlyn:
- Sicrhau dulliau caffael cyson.
- Manteisio ar arbedion maint a chost-effeithiolrwydd.
- Sicrhau bod gwasanaethau’n ateb anghenion cwsmeriaid yn well, gan gynnwys ansawdd, argaeledd a dibynadwyedd materion cyflenwi a chynaliadwyedd.
- Symleiddio prosesau, gan gynnwys defnyddio dulliau caffael electronig.
- Cymorth i’r economi lleol.
Ceir mynediad i’r polisi hwn ar CardiNet y wefan mewnrwyd gorfforaethol.