Rheoli Perfformiad Staff
Gellir cymryd camau disgyblu os na fydd y gweithiwr unigol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau – boed hynny oherwydd camymddygiad neu safonau annigonol. Felly, mae’n bwysig bod y gweithwyr yn deall pa safonau perfformiad y mae’r cyflogwr yn eu disgwyl ganddynt. Mae’r drefn hon yn berthnasol i’r holl staff (heblaw am y rhai sy’n cael eu cyflogi gan Gyrff Llywodraethu’r ysgolion) sy’n cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Ceredigion.
Nod y drefn hon yw:
- Helpu ac annog pob gweithiwr i gyflawni a chynnal safonau boddhaol o berfformiad yn y gwaith;
- Sicrhau bod pawb yn cael ei drin yn deg ac yn gyson heb ddim gwahaniaethu.