Straen

Diffiniad o Straen

Gellir diffinio straen fel y lefel fyddwch chi’n teimlo wedi’ch gorlethu, neu’ch bod yn methu ag ymdopi, o ganlyniad i bwysau sy’n amhosibl i’w reoli. Straen yw ymateb y corff pan mae’n synhwyro perygl. Rydym i gyd yn profi straen ac mae arnom ei angen er mwyn parhau i weithredu. Ond pan fydd straen yn ymyrryd â’n bywydau, mae’n dod yn broblem. Gall gormod o straen, am gyfnod rhy hir, ein gwneud yn sâl. Os nad eir i’r afael â hyn, gall straen achosi problemau iechyd meddwl fel iselder neu orbryder a niweidio ein hiechyd corfforol. Pan eir yn rhy hir cyn mynd i’r afael â’r mater gall straen sbarduno trafferthion iechyd meddwl a chorfforol.

Help llaw wrth fynd i’r afael â straen

Ceisiwch

  • Rhannu sut rydych chi’n teimlo – mae’n iawn gofyn am help a chymorth.
  • Datod eich hunan oddi wrth ymyriadau – sicrhewch bod gennych amser i chi eich hun fel rhan reolaidd o’ch trefn arferol. Gwnewch nodyn i’ch atgoffa o hyn os oes angen i chi.
  • Mynd ati i symud! Mae iechyd corfforol a meddyliol yn gysylltiedig – felly bwytwch yn dda ac ymarferwch eich corff i ryddhau endorffinau.
  • Dod o hyd i weithgaredd hwyliog sy’n addas i chi a’ch amserlen. Neilltuwch amser i gael hwyl neu fwynhau – gall emosiynau cadarnhaol helpu i sefydlu amddiffynfa yn erbyn straen. Dysgwch sgil newydd – boed yn baentio, yn chwarae gitâr neu’n iaith newydd.

Dylech osgoi:

  • Chwilio am berffeithrwydd – gall greu disgwyliadau afrealistig. Derbyniwch y bydd camgymeriadau’n digwydd.
  • Poteli eich teimladau a thybio y byddant yn mynd i ffwrdd – gall hyn wneud pethau’n waeth yn y tymor hir.
  • Gorweithio a gwirio eich negeseuon e-bost y tu allan i oriau gwaith – mae arnom oll angen amser i ddadflino.
  • Treulio gormod o’ch amser rhydd o flaen sgrin – gan gynnwys eich ffôn symudol. Peidiwch â theimlo dan bwysau i fod yn ‘gwneud’ rhywbeth drwy’r amser.
  • Ei gorwneud hi ar siwgr, caffein neu alcohol – atebion cyflym, dros dro yw’r rhain, a all gynyddu straen yn y tymor hir.

Mae’n debygol y gallwch ddysgu rheoli eich straen yn well drwy:

  • reoli pwysau allanol, fydd yn sicrhau na fydd sefyllfaoedd straenus yn codi mor aml.
  • ddatblygu eich gwydnwch emosiynol, fel eich bod yn ymdopi’n well â sefyllfaoedd anodd pan ddigwyddant, a ddim yn dioddef cymaint o effeithiau straen pan ddaw.

Cyngor a chymorth ychwanegol

Os hoffech gael cyngor pellach ar sut i reoli straen gan ein Swyddog Iechyd a Lles anfonwch e-bost at iechydalles@ceredigion.gov.uk.

Fel arall, fel un o weithwyr Ceredigion, gellir derbyn cymorth a chyngor cyfrinachol gan Care First.

Mae amryw o adnoddau defnyddiol hefyd wedi’u rhestru isod: