Care First – Pecyn Cymorth i Staff
Fel un o weithwyr Cyngor Sir Ceredigion, gallwch gael gafael ar amrywiaeth o adnoddau cymorth a chyngor.
Mae Care First yn rhoi cyngor a chymorth cyfrinachol a diduedd 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim pryd bynnag y bydd angen. Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd gan eich rheolwr neu’ch sefydliad cyn cysylltu â Care First.
Trwy Care First, gallwch gael mynediad at nifer o wasanaethau gan gynnwys:
- Gwasanaeth ffôn ‘Gwybodaeth a Chyngor‘
- Gwefan ‘Care First Zest‘ ac ap ffôn iechyd a ffitrwydd personol.
- ‘Care First lifestyle‘, adnodd ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth, cyngor ac erthyglau ar faterion yn ymwneud â pherthnasoedd, gofal plant a hawliau cwsmer, hyd at straen, iechyd a ffitrwydd
Cyfrinachedd
Er ei fod yn cael ei ddarparu gan Ceredigion, mae gwasanaethau Care First yn gwbl annibynnol ac mae eich galwad yn cael ei thrin yn gyfrinachol yn unol â fframwaith moesegol BACP. Pan fyddwch yn cysylltu, gofynnir i chi nodi pwy yw eich cyflogwr ac efallai y gofynnir i chi am wybodaeth arall – bydd hwn at ddefnydd ystadegol yn unig.