Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Mae Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn bwynt cyswllt os ydych chi, neu rywun yr ydych yn pryderu yn ei gylch, yn profi problem iechyd meddwl neu drallod emosiynol.

Nid ydynt yn therapyddion nac yn seiciatryddion ond gallant roi cymorth cychwynnol i chi a’ch cyfeirio at gymorth priodol os oes angen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cysylltwch â healthandwellbeing@ceredigion.gov.uk.

Ffurflen Gysylltu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Ein Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

John Lynch

07970284230

john.lynch@ceredigion.gov.uk

Dewisais fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl oherwydd lle rwy’n gweithio. Rydym yn treulio cymaint o amser yn gofalu am les ein disgyblion fel ein bod yn tueddu i esgeuluso ein lles ein hunain. Ar ôl siarad â staff ac eraill mae’n ymddangos bod rhagor o bobl yn cael trafferth gyda’u lles felly’r ffordd orau o helpu oedd dod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.

 

Nia Wyn Jones

07971951743

nia.wyn-jones@ceredigion.gov.uk.

Penderfynais achub ar y cyfle i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gan fy mod yn mwynhau gweithio gyda phobl ac mae gennyf ddiddordeb mewn iechyd meddwl. Rwy’n credu’n gryf bod cael iechyd meddwl iach a chadarnhaol yn wirioneddol bwysig, a byddaf yn ceisio fy ngorau i helpu pobl i gyflawni hyn. Rwy’n empathig ac yn wrandäwr da, a bob amser yn hapus i helpu unrhyw un sydd angen cymorth.

 

Helen Doughty

01970 633049

helen.doughty@ceredigion.gov.uk.

Hei, fy enw i yw Helen Doughty. Penderfynais ddod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl oherwydd roeddwn i eisiau gallu helpu pobl. Fel arfer fi yw’r person y mae fy ffrindiau’n troi ato pan maen nhw eisiau cysur neu wrandäwr da. Mae’r 2 flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i lawer ohonom wrth ddelio â’r pwysau o jyglo gweithio gartref, bywyd teuluol, pryder y pandemig neu deimlo’n ynysig. Gall cael rhywle i droi lle bydd rhywun yn gwrando arnoch yn anfarnol a lle byddwch yn cael cymorth, wneud byd o wahaniaeth. Rwy’n gobeithio gallu gwneud hynny i chi.

 

Gail Nolan

07854 106891 / 01545 572649

Gail.Nolan2@ceredigion.gov.uk

Roeddwn i eisiau bod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl oherwydd fy mod yn angerddol am helpu pobl, yn enwedig y rheini â chyflyrau iechyd meddwl.  Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig cael Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y gweithle fel ein bod yn gallu siarad â phobl nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu siarad â’u rheolwyr.  Mae gofalu amdanoch chi’ch hun a’ch teulu mor bwysig ac er ei bod hi’n ymddangos nad oes gobaith, mae yna mewn gwirionedd, efallai ei bod hi’n daith hir iawn gyda darnau geirwon ar y ffordd ond mae pen y daith bob amser yno ar y diwedd.

 

Cathy Hutton

01970 633584

Catherine.hutton2@ceredigion.gov.uk

Deuthum yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl oherwydd gallai fod yn unrhyw un ohonom yn cael trafferth, felly mae’n bwysig i mi sicrhau fy mod yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd ac yn gwybod sut i gael cymorth ar gyfer y person hwnnw. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn chwalu stigmâu iechyd meddwl mewn cymdeithas; Rwy’n gweld fy rôl fel Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn chwarae rhan yn hyn.

 

Tallulah Moonlight

01970 633719 / 07479886884

Tallulah.Moonlight@ceredigion.gov.uk

I mi, lles yw un o gonglfeini bywyd.  Rwy’n gobeithio gwneud cyfraniad cadarnhaol i rywun, sydd angen cael ei dderbyn, angen tosturi ac angen cael ei gysuro, a chynyddu ei hapusrwydd a’i les.

 

 

David Salter

01970 633078

David.Salter@ceredigion.gov.uk

Cofrestrais ar y cwrs oherwydd bod y problemau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl yn fwy cyffredin nawr nag erioed o’r blaen. Nid yn unig y mae’n sgil ddefnyddiol i’w gael yn y gweithle ond mae’n berthnasol i bob maes bywyd. Fel man cyhoeddus am ddim, mae amgueddfa Ceredigion yn croesawu amrywiaeth o ymwelwyr sydd ag anghenion a gofynion gwahanol. Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau lleol, grwpiau cymorth a mentrau sy’n gofalu am bobl sy’n agored i niwed, felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud iddynt deimlo cymaint o groeso â phosibl.

 

 

Nicola Willis

07815993638

Nicola.willis@ceredigion.gov.uk

Rwy’n teimlo’n gryf am bŵer siarad.  Ar ôl gweithio yn y sector cam-drin domestig yn flaenorol, rwyf wedi gweld pa mor bwysig yw cydnabod iechyd meddwl a chael cymorth priodol.  Weithiau gall yr hyn sy’n ymddangos fel y pethau bach gynyddu’n gyflym i bethau mawr.  Gall cael rhywun i siarad ag ef yn agored a heb farn ac i rannu eich meddyliau ag ef wneud byd o wahaniaeth. Rwyf am gael gwared ar y stigma a helpu pobl i deimlo’n llai unig.

 

Robert Evans

07796147860

Robert.Evans@ceredigion.gov.uk  

Rwy’n teimlo bod iechyd meddwl yn dal i fod yn bwnc sy’n cael ei gamddeall ac rwyf am allu helpu fy hun ac eraill yn y gwaith.

 

Gareth Davies

01970 633809 / 07583895857

Gareth.JohnDavies@ceredigion.gov.uk

Ddim yn siŵr iawn beth i’w ddweud ond mae’n debyg fy mod wedi ymuno â’r cwrs i gynnig fy help i unrhyw un a allai fod ei angen. Mae’r cwpl o flynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i bawb felly ymunais i gynnig fy help os oes angen.

 

Alison Greeley

07816587311

Greeleya5@hwbcymru.net

Roedd gen i ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gan ei fod yn swnio fel prosiect hynod ddiddorol ac angenrheidiol. Rydyn ni i gyd yn cael adegau yn ein bywydau sy’n anodd ymdopi â nhw a gall gwybod bod rhywun i siarad ag ef fod o gymorth mawr.

 

Sarah Bailey

01545 572245

Sarah.Bailey@ceredigion.gov.uk

Deuthum yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl oherwydd credaf fod angen i ni dynnu sylw at ba mor bwysig yw cael rhywun i siarad ag ef a rhywun i wrando.

Mae Covid-19 a gweithio o gartref wedi cael effaith ar bawb mewn ffyrdd gwahanol, ond nid yw mor hawdd i ni ryngweithio ag eraill a chefnogi ein gilydd fel cydweithwyr.

 

Catherine Cooper

catherine.cooper@ceredigion.gov.uk

Teimlaf fod cefnogi ein cydweithwyr gyda darpariaeth cymorth cyntaf iechyd meddwl yr un mor bwysig â rhoi cymorth cyntaf corfforol. Roeddwn i eisiau bod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl oherwydd sylweddolais fod llawer ohonom weithiau’n cael trafferth gyda phwysau bywyd bob dydd ac y byddem yn elwa’n fawr o well dealltwriaeth gan ein tîm, a chlust gyfeillgar i siarad â hi. Gyda’r hyfforddiant hwn gallaf nawr helpu cydweithwyr i adnabod pryd mae angen mwy o help gan weithwyr proffesiynol, a darparu rhywun i fynd ato am gymorth.

 

Angela Sawyer

angela.sawyer@ceredigion.gov.uk

Penderfynais ddod yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl gan fod y 2 flynedd ddiwethaf wedi amlygu pa mor bwysig yw hi i ofalu am iechyd pawb yn ogystal â’u hiechyd corfforol. Mae cael yr hyfforddiant wedi rhoi’r offer a’r wybodaeth i mi deimlo’n hyderus yn fy ngallu i adnabod pryd y gallai fod angen cymorth ar rywun a chynnig rhywfaint o gymorth iddynt ar eu ffordd i wella.

 

Jill Lowry

jill.lowry@ceredigion.gov.uk

Mae fy niddordeb mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl o ganlyniad i ymwneud â phobl amrywiol o’m cwmpas yn cael cyfnodau o iechyd meddwl gwaeth. Teimlais fy mod angen rhywfaint o arweiniad ar sut i ddelio â’r sefyllfaoedd hyn yn y dyfodol a rhywfaint o sicrwydd na fyddwn yn gwaethygu eu sefyllfa. Rwyf bob amser yn hapus i wrando a helpu lle bynnag y gallaf. Weithiau mae’n haws siarad â rhywun nad ydych chi’n agos ato neu sydd ychydig gamau i ffwrdd o’ch bywyd bob dydd.

 

Eirlys Lloyd

_eirlys.lloyd@ceredigion.gov.uk

I fod yno i helpu eraill a allai fod angen yr ychydig bach hwnnw o help. Mae llawer o bobl yn teimlo’n ynysig ers gweithio gartref ac os gallaf fod yno i helpu eraill a allai fod angen siarad am sut maen nhw’n teimlo, yna rydw i yma’n barod i wrando.