Iechyd Dynion

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Dynion ar 19eg Tachwedd bob blwyddyn.

Yn y DU mae tair thema i Ddiwrnod Rhyngwladol Dynion:

  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant a bywydau dynion a bechgyn
  • Codi ymwybyddiaeth a/neu arian i elusennau sy’n cefnogi llesiant dynion a bechgyn
  • Hyrwyddo sgwrs gadarnhaol am ddynion, dyndod a gwrywdod

Cam-drin Domestig

Gall dynion brofi camdriniaeth ddomestig hefyd: mae 1 mewn 3 o ddioddefwyr yn ddynion: Yn 2019/20 – dioddefodd 757,000 o ddynion (1.56 miliwn o fenywod) gamdriniaeth ddomestig. Gweler isod am ffynonellau cymorth a chefnogaeth:

Canser y Prostad

Bydd 1 mewn 8 o ddynion yn cael canser y prostad. Os ydych chi dros 50, yn ddu neu os yw eich tad neu eich brawd wedi cael canser y prostad, rydych chi mewn mwy o berygl fyth. Ar gyfartaledd mae rhyw 11,900 o ddynion yn marw o ganser y prostad bob blwyddyn (cyfartaledd 2016-2018). Mae hwn yn 32 y dydd, un bob 45 munud.

Gwiriwch eich lefel risg yma.

Hunanladdiad

Yn 2021 cafodd 347 o hunanladdiadau eu cofrestru yng Nghymru. Roedd 265 o’r rhain yn ddynion, sy’n cyfateb i 19.7 ym mhob 100,000. Mae dynion 3.3 gwaith yn fwy tebygol na menywod o farw drwy hunanladdiad yng Nghymru.

 

Iechyd meddwl a lles

 

Cefnogaeth Iechyd Meddwl Ar Gael o fewn y Cyngor

Mae Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn bwynt cyswllt os ydych chi neu rywun yr ydych yn poeni yn ei gylch yn profi problem iechyd meddwl neu ofid emosiynol.

Nid therapyddion neu seiciatryddion mohonynt ond gallant roi cymorth cychwynnol i chi a’ch cyfeirio chi at help priodol os oes angen.

Grwpiau cerdded i ddynion – cyfle i ddynion ddod at ei gilydd, i fynd am dro a chael sgwrs: Men – This one is for you!

Sesiynau Galw Heibio i Weithwyr: Gallwch gael sgwrs un i un i drafod unrhyw beth a all fod yn effeithio ar eich lles.

 

Cam-drin Domestig/Trais

 

Tadolaeth

 

Iechyd Dynion

Canser y Ceilliau – Baggy Trousers

 

Unigrwydd/Ynysu/Gyda’n Gilydd/Camaraderie

Grwpiau gweithgareddau i ddynion gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd: men2men