Adnewyddu DBS
Mae’n bolisi gan y Cyngor i adnewyddu tystysgrifau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob tair blynedd os oes rhaid i weithwyr eu cael, oherwydd eu swyddi. Bydd y Cyngor yn talu cost y cais datgelu.
Mae’r broses adnewyddu DBS fel a ganlyn:
Cam 1
Byddwch yn derbyn cais i adnewyddu eich DBS drwy ebost. Mi fydd yr ebost yn cynnwys linc i ein system DBS ar-lein a fydd yn ein galluogi iigwbhalu’r ffurflen gais ar-lein. Mewn rhai amgylchiadau efallai y gofynnir i chi gasglu ffurflen gais DBS papur oddi wrth Adnoddau Dynol, Canolfan Rheidol.
Cam 2
Cwblhewch a chyflwyno eich cais ar-lein. Cyflwynwch prawf o’ch ID i Swyddfeydd Arian Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi neu Aberystwyth. Rhaid gwneud hyn wyneb yn wyneb. Am arweiniad ar y broses wirio ID a dogfennau adnabod derbyniol, cliciwch yma.
Cam 3
Unwaith y bydd eich ffurflen gais DBS wedi’i phrosesu gan y Gwasanaeth Gwahardd Datgelu, bydd eich cofnod Ceri yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny a bydd y broses adnewyddu yn gyflawn. Byddwch yn derbyn tystysgrif newydd yn unol â hynny. Dylid cadw hyn yn ddiogel eich hun.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r newidiadau i weithdrefnau gwirio DBS, cysylltwch â Adnoddau Dynol ar 01970 633949 (anoddaudynol@ceredigion.gov.uk).