Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd / Recriwtio Diogel

Yn unol â’r ddyletswydd sydd arnom i sicrhau diogelwch grwpiau bregus sy’n cael gwasanaeth gan y Cyngor ac yn y gymdeithas yn gyffredinol mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod pawb y mae’n ei gyflogi’n addas beth bynnag fo’i swydd. Mae’r Polisi Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/Recriwtio Diogel yn gosod y prosesau a’r safonau sydd gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cadw at y dyletswyddau hynny.