Y Drefn Bresennol
Mae dadansoddiad diweddar o’r taliadau amrywiol a wneir i staff ar hyn o bryd wedi nodi bod rhai ffioedd proffesiynol yn dal i gael eu had-dalu i staff.
Y Drefn Arfaethedig
Er mwyn tegwch ac er mwyn trin pawb yn yr un modd, y cynnig yw na ddylid ad-dalu unrhyw ffioedd proffesiynol i staff. Eglurir y trefniadau terfynol ym Mholisi Tâl y Cyngor ac yn y tudalennau cysylltiedig ar fewnrwyd y Cyngor, er mwyn osgoi dryswch yn y dyfodol.
Gweithredu
Cynigir bod y taliadau hyn yn dod i ben ac y daw hyn i rym o 1 Chwefror 2021 ymlaen.