Ffioedd Proffesiynol – Ymatebion

Crynodeb

Derbyniwyd yr ymatebion canlynol:

Nifer yr ymatebion
Roedd yr ymateb yn cytuno â’r argymhelliad 2
Roedd yr ymateb yn anghytuno â’r argymhelliad 11
Cyfanswm 13

Ymatebion

Er mwyn sicrhau ein bod yn agored ac yn dryloyw rydym wedi crynhoi  neu nodi mewn grwpiau’r ymatebion a dderbyniwyd lle bynnag y bo hynny’n bosib.  Mae’n bosib felly fod yr ymateb a nodwyd yn y tabl isod wedi ei aralleirio.

Ymatebion Ateb
Os yw’n Aelodaeth Broffesiynol yn rhan hanfodol o’r swydd dylai’r Cyngor dalu amdano.  Os nad ydynt yn talu amdano nid yw lefel y cyflog  ar ddarperir ar gyfer hynny yn cyfateb i swyddi o’r un raddfa nad yw’n ofynnol i fod yn aelod proffesiynol  Yr ateb a roddwyd i mi’n flaenorol oedd fy mod wedi gwneud cais am swydd gan wybod y byddai’n rhaid i mi dalu am aelodaeth, ac yn amlwg nid yw hynny’n rheswm am beidio â chymryd swydd neu gael cynnig swydd.  Ni allaf sefyll nol a pheidio â datblygu fy ngyrfa yn seiliedig ar  ffi aelodaeth o £400 y flwyddyn am fod y manteision yn fwy na hynny.  Fodd bynnag yr egwyddor y tu ôl i hyn yw’r trefniant cyfredol (sef y gweithiwr yn talu) sy’n gyfystyr â chymryd mantais ariannol o’r sefyllfa yn sgil y proffesiwn y mae’r gweithiwr digwydd bod wedi ei ddewis.

Dylai’r ymgynghoriad fod wedi gofyn – a ddylai pob gweithiwr sydd angen iddynt fod yn aelod proffesiynol o gorff penodol  fel rhan o’u swydd dderbyn ad-daliad am y ffioedd er mwyn sicrhau cydraddoldeb â’r rheiy ar yr un raddfa sydd heb ofyniad i fod yn rhan o gorff proffesiynol.

Mae’r arfarniad swydd o’r rôl yn ystyried y cymhwyster sydd ei angen i ymgymryd â’r rôl hynny.

Mae’n amlwg fod anghysondeb ar draws y Cyngor o ran pa rolau y mae’r Cyngor yn fodlon talu eu ffioedd aelodaeth ai peidio.  Mae’r angysondeb yn cynnwys y rolau hynny sydd angen bod yn aelod o gorff proffesiynol er mwyn cyflawni gofynion eu rôl.

O ran bod yn drylowy a sicrhau cydraddoldeb ar draws y Cyngor cytunwyd na chaiff unrhyw ffioedd proffesiynol eu had-dalu o 1 Ebrill 2021.

Ffioedd proffesiynol – beth yn union ydych chi’n ei olygu ?  Ydych chi’n golygu ffioedd cofrestru rydym eisoes yn talu ein hunain neu ydych chi’n golygu ffioedd DBS?  Os ydych chi’n cyfeirio at ffioedd DBS nid wyf yn credu ei fod yn briodol i ni dalu am ein DBS ein hunain.   Mae natur ein gwaith yn golygu fod angen i ni gael DBS sy’n gyfredol a heb y gwiriad yma ni fyddai’n bosib i ni ymgymryd â’n gwaith felly rwy’n ei ystyried fel rhan o delerau ac amodau cyflogaeth ac o’r herwydd y cyflogwr dylai dalu amdano. Mae’r ffioedd proffesiynol y cyfeiriwyd atynt yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â ffioedd i gyrff proffesiynol megis Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, Cymdeithas y Cyfreithwyr ayb.

Nid yw ffioedd DBS yn rhan o’r ymgynghoriad yma a bydd y cyflogwr yn parhau i dalu amdanynt lle y bo angen .

Ysgrifennaf atoch ar ran holl aelodau Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg yng Ngheredigion.

Mae’n ofyniad ar ein proffesiwn i fod yn aelodau o’r Cyngor Gofal Iechyd a Swyddogion Proffesiynol (HCPC) Mae’n ofyniad ar holl Seicolegwyr Addysg i dalu ffi (ar hyn o bryd £180 bob dwy flynedd) er mwyn ymgymryd â’r rôl statudol yma o fewn yr Awdurdod Lleol .  Nid yw’n bosib i ni weithio oni bai ein bod wedi gwneud y taliad yma nac ychwaith os nad ydym wedi ein cofrestru fel seicolegwyr gweithredol.  Yr HCPC yw’r corff sy’n sicrhau ein bod yn cynnal ein datblygiad proffesiynol parhaus a’n bod yn gweithio o fewn y fframwaith moesegol sy’n ofynnol ar ein proffesiwn.

Mae Awdurdod Lleol Ceredigion wedi cydnabod fod aelodaeth o’r HCPC yn hanfodol o fewn proses recriwtio ar gyfer Seicolegwyr Addysg ac y mae hyd yma wedi ad-dalu’r seicolegwyr am y taliad hwn.  Gan fod Awdurdod Lleol Ceredigion o’r cychwyn wedi  ad-dalu’r ffi yma gellir ei ystyried yn delerau ymhlyg o’n contract cyflogi ac o’r herwydd mae ganddo statws contract llawn.

O’r 22 Awdurdod Lleol y cysylltwyd â hwy yn gofyn a oeddent yn talu ffi cofrestru HCPC ar ran y Seicolegwyr Addysg bu i ni dderbyn 16 o ymatebion – roedd y mwyafrif (13 o’r 16 Awdurdod Lleol) yn talu’r ffi yma fel cost hanfodol cydnabyddedig o’r gwaith.

Bydd yn bosib i Seicolegwyr Addysg hefyd ymuno â chyrff proffesiynol eraill (nad ydynt yn fandadol) ac y mae angen ffi aelodaeth blynyddol arynt hefyd er enghraifft, Cymdeithas Seicolegol Prydain, Adran Seicolegwyr Plant ac Addysg a Chymdeithas y Seicolegwyr Addysg. Nid ydym wedi gofyn i’r uchod gael eu had-dalu am nad yw ein cyflogaeth yn ddibynnol arnynt.

Mawr hyderaf y byddwch yn ystyried yr ymateb yma ac yn rhoi ystyriaeth lawn i’r ffaith  fod ein cyflogaeth fel seicolegwyr yn rôl statudol ac yn ddibynnol ar y ffi proffesiynol yma  – sy’n gweithredu fel trwydded i ni ymgymryd â’n gwaith o ddydd i ddydd.

Mae wedi dod yn amlwg fod anghysondeb ar draws y Cyngor o ran pa rolau y mae’r Cyngor yn fodlon talu eu ffioedd aelodaeth ai peidio.

O ran bod yn drylowy a sicrhau cydraddoldeb ar draws y Cyngor cytunwyd na chaiff unrhyw ffioedd proffesiynol eu had-dalu o 1 Ebrill 2021.

Cyflawnir newidiadau i delerau ac amodau cyflogaeth drwy drefniadau cydfargeinio gydag undebau llafur cydnabyddedig.  Mae’r broses ymgynghori yma wedi golygu newid i delerau ac amodau rhai aelodau staff.

Mae’n amlwg er y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn y lleiafrif, nid Ceredigion bydd yr unig Awdurdod Lleol bydd yn gofyn i Seicolegwyr addysg dalu eu ffioedd cofrestru.

Cyflwynir y wybodaeth yma yn sgil ymgynghoriad y Cyngor ar beidio ag ad-dalu ffioedd proffesiynol i staff.  Gweler y ddogfen word lawn y byddaf yn ebostio at Adnoddau Dynol ar y mater yma.

Cyflogir Cyfreithwyr / Gweithredwyr cyfreithiol gan yr Awdurdod ac y mae angen tystysgrif ymarfer arnynt.  Dylai’r Awdurdod dalu’r gost yma am ei fod yn ofynnol yng Nghontract cyflogaeth cyfreithwyr / gweithredwyr cyfreithiol.

Nid yw tystysgrifau ymarfer yn ofyniad sy’n opsiynol i gyfreithwyr.  Maent yn ofynnol cyn y gall cyfreithwyr ymarfer.  Caiff Tystysgrifau Ymarfer eu talu gan gwmniau cyfreithiol preifat a’r mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru.  Mewn sefyllfa lle mae cyflogau yn llai na chyfreithwyr mewn cwmniau preifat ac awdurdodau sy’n ffinio mae’n ofyniad i staff dalu am dystysgrif ymarfer sy’n elfen angenrheidiol o’r gwaith yn annheg iawn.  Mae cryn gwerth mewn defnyddio cyfreithwyr mewnol i’w gymharu â thalu ffi fesul awr i gyfreithwyr mewn cwmniau preifat.  Mae’r gost i’r Awdurdod i dalu tystysgrifau ymarfer yn talu ar ei ganfed i gymharu â gwerth y gwasanaeth a dderbynnir o ganlyniad i ddefnyddio ei gyfreithwyr ei hun.

Mae’r arfarniad swydd o’r rôl yn ystyried y cymhwyster sydd ei angen i ymgymryd â’r rôl.

Mae’n amlwg fod anghysondeb ar draws y Cyngor o ran pa rolau y mae’r Cyngor yn fodlon talu eu ffioedd aelodaeth ai peidio.  Mae’r angysondeb yn cynnwys y rolau hynny sydd angen bod yn aelod o gorff proffesiynol er mwyn cyflawni gofynion eu rôl.

O ran bod yn drylowy a sicrhau cydraddoldeb ar draws y Cyngor cytunwyd na chaiff unrhyw ffioedd proffesiynol eu had-dalu o 1 Ebrill 2021.

Penderfyniad

Gweithredu’r cynnig a bydd y newid yn dod i rym o 1 Ebrill 2021 ymlaen.