Salwch Hirdymor a Pharhaol

Salwch Hirdymor

Ar ôl oddeutu 5 wythnos o absenoldeb di-dor, caiff y gweithiwr ei gyfeirio at yr Uned Iechyd Galwedigaethol ar gyfer asesiad meddygol. Cliciwch yma i weld y Ffurflen Atgyfeirio Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol.

Efallai y bydd y Meddyg Iechyd Galwedigaethol yn gallu dweud yn ddiamwys bod y gweithiwr yn abl i ddychwelyd i’r gwaith o fewn amser rhesymol, ac ni all ddatgan fod y gweithiwr heb fod yn ddigon iach i ddod i’r gwaith yn barhaol. Mewn achosion o’r fath bydd y rheolwr llinell/goruchwylydd yn ymgynghori â’r gweithiwr ynglŷn â’r sefyllfa ac yn trafod pethau gydag ef mewn cyfres o gyfarfodydd adolygu absenoldeb.  Mae canllawiau i’w cael ar ddelio â salwch hirdymor yn y ddogfen Gweithdrefn Rheoli Absenoldebau o’r Gwaith Oherwydd Salwch.

Salwch Parhaol

Os bydd tystiolaeth feddygol yn nodi bod gweithiwr yn methu gwneud dyletswyddau ei swydd yn effeithlon nac ychwaith ddyletswyddau swyddi tebyg eraill oherwydd salwch parhaol, bydd y rheolwr llinell ac aelod o’r Adain Gorfforaethol Adnoddau Dynol yn ymweld â’r gweithiwr er mwyn esbonio canfyddiadau’r Meddyg Iechyd Galwedigaethol a dweud wrtho na fydd yn gallu parhau yn ei swydd. Caiff y drefn ar gyfer terfynu swydd ei hesbonio’n llawn. Hysbysir y gweithiwr o’i hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae canllawiau i’w cael ar ddelio â salwch parhaol yn y ddogfen Gweithdrefn Rheoli Absenoldebau o’r Gwaith Oherwydd Salwch.