Rheoli Salwch

Mae’n rhaid i bob Rheolwr gadw at y Polisi a’r Weithdrefn sy’n ymwneud â Rheoli Absenoldeb Salwch o’r Gwaith.

Mae’r polisi hwn yn sicrhau dull teg, cyson a chefnogol o reoli absenoldebau sy’n digwydd oherwydd salwch ac mae’n mynd ati i greu ac i feithrin diwylliant o bresenoldeb da. Mae cyfrifoldeb ar reolwyr llinell i gymryd camau i ddelio â’r problemau sy’n gysylltiedig ag absenoldeb parhaus sy’n digwydd dro ar ôl tro oherwydd salwch tymor byr. Mae angen iddynt leihau achosion o’r fath. Hefyd, yn unol â pholisi’r Cyngor, dylai’r rheolwyr fod yn sensitif i anghenion y gweithwyr hynny sy’n sâl am gyfnodau hir a’r gweithwyr hynny y mae arnynt afiechydon cronig, ynghyd a’r rhai sydd ag anableddau. Dylai’r rheolwyr wneud eu gorau, cyn belled ag y bo modd, i roi’r help angenrheidiol iddyn nhw. 

Y rheolwyr sy’n gyfrifol am gofnodi pob absenoldeb. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi ynglŷn â chofnodi absenoldebau ar Rheolwr Pobl Ceri cyfeiriwch at Sylfaen Wybodaeth Ceri.

DOGFEN DEFNYDDIOL

Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Gwaith

Ffurflen Atgyfeirio i Iechyd Galwedigaethol

Ffurflen Hunanardystio (SC1)

Ffurflen Cyfweliad Dychwelyd i’r Gwaith