Dychwelyd i’r Gwaith Gam wrth Gam
Gall amgylchiadau godi lle y bydd gweithiwr wedi gwella o salwch tymor hir neu afiechyd gwanychol, ond byddai’n ei chael hi’n anodd dychwelyd i’r gwaith a gweithio oriau a dyletswyddau llawn yn syth heb beryglu rhagor ar ei iechyd neu efallai fod y gweithiwr wedi gwella’n ddigonol fel y bydd yn medru gwneud rhai o’r dyletswyddau/oriau gwaith. Mewn achosion o’r fath, gall rheolwr, o ystyried y cyngor a dderbyniwyd, ystyried cymryd agwedd hyblyg er mwyn hwyluso pethau i’r gweithiwr fedru dychwelyd i’r gwaith trwy ganiatáu iddo ddychwelyd i’r gwaith gam wrth gam.
Bydd angen mewnbwn y rheolwr llinell, y gweithiwr a’r Adain Gorfforaethol Adnoddau Dynol. Ni chynigir dychwelyd fesul cam fel mater o drefn. Bydd hyd y cyfnod dychwelyd fesul cam yn ddibynnol ar amgylchiadau pob achos ond ni fydd, ond am amgylchiadau eithriadol, yn parhau fwy na 4 wythnos.