Camau Disgyblu – Salwch
Os bydd rheolwr / goruchwylydd yn credu bod gweithiwr wedi camddefnyddio’r drefn absenoldeb bydd angen cynnal archwiliad, yn unol â’r drefn ddisgyblu. Isod mae enghreifftiau wedi eu nodi o ymddygiad gan weithwyr sy’n gysylltiedig ag absenoldeb o’r gwaith lle byddai camau disgyblu’n briodol (Dyw’r rhestr ddim yn cynnwys popeth):
-
Heb ddilyn y rheolau sy’n ymwneud â rhoi gwybod ynglŷn â salwch a hynny heb reswm da
-
Wedi rhoi rheswm anfoddhaol dros fod yn absennol o’r gwaith
-
Heb ddarparu tystysgrifau meddygol fel bo’n ofynnol
-
Wedi camddefnyddio’r cynllun salwch
-
Mae’r gweithiwr wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n anghyson â natur y salwch honedig
-
Mae’r gweithiwr wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwaethygu natur y salwch neu’n ei atal rhag gwella o’r cyflwr
-
Mae wedi ffugio tystysgrifau hunanardystio neu feddygol yn fwriadol.
-
Mae canllawiau ynghylch y Weithdrefn Ddisgyblu ar gael yma.