Factor Bradford

Mae sgôr ‘Bradford Factor’ yn fodd o adnabod os yw pwynt ysgogi wedi’i gyrraedd.

Sut mae Sgôr Bradford wedi’i gyfrifo?

S x S x D = Sgôr ‘Bradford Factor’

S yw nifer y cyfnodau / achosion o absenoldeb yn ystod y 52 wythnos diwethaf

D yw’r cyfanswm o ddyddiau a gollwyd oherwydd salwch yn ystod y 52 wythnos diwethaf.

Er enghraifft:

  • 03 achos o absenoldeb; un o un, un o dri ac un o chwe diwrnod (3 x 3 x 10) = 90 pwynt
  • 05 achos o absenoldeb; bob un o ddau ddiwrnod (5 x 5 x 10) = 250 o bwyntiau