Absenoldeb Hirdymor – Gweithdrefn

Mae absenoldeb hirdymor wedi’i diffinio fel absenoldeb di-dor o 28 diwrnod neu ragor.

Bydd y rheolwr llinell yn cadw mewn cysylltiad â’r gweithiwr trwy gydol y cyfnod o absenoldeb, fel y bo’n rhesymol. Bydd hynny’n dibynnu ar yr amgylchiadau a gall amrywio ymhob achos o ran pa mor aml y cedwir mewn cysylltiad a’r modd y gwneir hynny. Er enghraifft, dros y ffôn , nedeseuon e-bost, ymweliadau cartref.

Serch hynny, dylid cynnal Cyfarfod Lles cyn cyfeirio unrhyw weithiwr at Therapydd Galwedigaethol. Cofiwch wneud trefniadau ymlaen llaw cyn cynnal yr Cyfarfod Lles, oni bai fod amgylchiadau eithriadol, er enghraifft pan fydd ymdrechion rhesymol i gysylltu â’r gweithiwr wedi methu, neu os oes amheuaeth fod y gweithiwr yn camddefnyddio’r cynllun salwch. Dylid cynnal y Cyfarfod Lles yn y gweithle lle bo modd. Gall cynrychiolydd cydnabyddedig undeb llafur, cyfaill neu berthynas fod yn bresennol yn ystod yr ymweliad os yw’r gweithiwr yn dymuno hynny. Bydd y person arall yn medru cefnogi’r gweithiwr, ond bydd disgwyl i’r gweithiwr ateb pob cwestiwn drosto ei hun.

Ni chaniateir i reolwyr llinell ymweld â chartrefi cyflogeion heb fynd â rhywun arall gyda nhw.

 

DOGFEN DEFNYDDIOL

 

Ffurflen Atgyfeirio Iechyd Galwedigaethol

Ffurflen Nodiadau Cyfarfod Lles