Canllawiau disgyblu

 

Mae’r drefn ddisgyblu’n fodd i gadw rheolau a chynnal safonau. Dylid ei defnyddio’n bennaf i helpu ac annog staff i wella yn hytrach na’u cosbi’n unig. Mae’n fodd i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion sydd o ran ymddygiad neu berfformiad ac mae’n gallu helpu staff ddod yn weithwyr effeithiol eto. Dylai’r drefn ddisgyblu fod yn deg, yn effeithiol ac yn gyson o ran ei gweithrediad.

DISGYBLU A CHWYNION YN Y GWAITH – CANLLAWIAU ACAS

Bwriad Polisi Disgyblu Cyngor Sir Ceredigion yw sicrhau bod honiadau o gamymddygiad yn cael eu trin yn deg ac yn gyson. Mae dau faes yn bennaf oll lle gallai fod angen rhoi’r drefn ddisgyblu ar waith:

  1. gallu/perfformiad
  2. ymddygiad.

Gallu/perfformiad

Mae problemau’n medru codi o ran gallu oherwydd nad yw’r gweithiwr wedi cael hyfforddiant digonol, neu efallai nad yw’n medru gwneud y gwaith yn iawn am reswm arall. Cyn troi at y drefn ddisgyblu ffurfiol bydd angen i’r cyflogwr nodi’r rheswm a rhoi cymorth priodol. Cewch ganllawiau ynghylch rheoli perfformiad yma.

Ymddygiad

Mae camymddygiad staff yn gallu cynnwys dod i’r gwaith yn hwyr yn barhaus, methu â dilyn cyfarwyddiadau rhesymol, camddefnydd ar system gyfrifiadurol y Cyngor neu’r rhyngrwyd, bwlian neu greu amgylchiadau annifyr yn y gwaith trwy ladrata, ymladd a throseddau. Gallai’r troseddau mwyaf difrifol gynnwys camymddygiad difrifol. Ym mhob achos, rhaid i’r Rheolwyr Llinell ddilyn Polisi Disgyblu’r Awdurdod.

Unioni materion sy’n ymwneud â disgyblu’n anffurfiol

Lle bo hynny’n bosibl, yn anffurfiol mae delio â materion disgyblu. Weithiau bydd gair bach tawel yn ddigon i wella ymddygiad neu berfformiad y gweithiwr. Mae hynny’n ei gwneud hi’n bosibl delio â mân bryderon yn gyflym a tharfu cyn lleied ag sy’n bosibl ar y gwaith. I gael cyngor ynghylch cynnal cyfarfod anffurfiol i unioni mân gamymddygiad cliciwch yma.

Camau Ffurfiol

Os na fydd y camau anffurfiol yn llwyddo i wella pethau, neu os yw’r camymddygiad neu’r perfformiad anfoddhaol yn rhy ddifrifol i gael ei ystyried yn fân gamymddygiad, rhaid i’r Rheolwyr roi arwydd clir i’r gweithiwr eu bod yn anfodlon ar y sefyllfa trwy gymryd camau ffurfiol. Gofynnwch am ganllawiau gan yr Adnoddau Dynol a dilynwch y Polisi Disgyblu.