Microsoft Office 365

Arbediwch 30% ar Office 365

Fel un o weithwyr Cyngor Sir Ceredigion rydych yn gymwys i danysgrifio i Microsoft Office 365 ar gyfradd flynyddol ostyngedig.

Mae’r cynnig hwn ar gael i weithwyr Ceredigion (gan gynnwys Cynghorwyr) sydd â chyfeiriad e-bost @ceredigion.gov.uk, ond nid yw’n cynnwys sefydliadau sy’n bartneriaid na staff ysgolion. Dylid pwysleisio mai cynnig i brynu meddalwedd i’ch cyfrifiadur gartref yw hwn yn hytrach na’ch cyfrifiadur yn y gwaith, gan fod Microsoft Office ar y rheiny’n barod drwy’r cytundeb menter.

Cyfarwyddiadau

1. Ewch i https://www.microsofthup.com/hupuk/home.aspx?culture=en-GB
2. Rhowch eich cyfeiriad e-bost GWAITH (***.***@ceredigion.gov.uk), yna cliciwch ‘Submit’
3. Rhowch y côd i mewn: 29EAFE6965
4. Yna fe gewch chi e-bost; cliciwch ar “Confirm your Account” ac fe ddaw ffenestr newydd i’r golwg
5. Dewiswch beth ydych chi am ei brynu a chliciwch ar “Add to Cart”
6. Yn eich ‘cart’ byddwch yn gweld y pecyn rydych chi wedi’i ddewis. Mae hefyd yn rhoi’r dewis ichi ychwanegu pethau eraill fel DVD, teclyn USB neu ffordd arall o gadw gwybodaeth wrth gefn.
7. Ar ôl penderfynu beth hoffech chi ei brynu, cliciwch ar “Checkout” – bydd arnoch angen cerdyn debyd/credyd
8. Wedyn gallwch osod y rhaglen (ar eich cyfrifiadur eich hun – anfonwch y ffeil i osod y rhaglen i’ch cyfeiriad e-bost personol)
9. Rhowch rif adnabod y pecyn i mewn.

Os ydych chi wedi prynu’ch cyfrifiadur yn newydd yn y tair blynedd diwethaf, fe ddylai’r feddalwedd weithio’n iawn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod fod y feddalwedd yn addas ar gyfer eich cyfrifiadur gartref. Ni fydd y Gwasanaeth TGCh yn medru cynorthwyo wrth brynu’r feddalwedd nac yn medru datrys unrhyw drafferthion gyda’ch cyfrifiadur gartref. Mater i bob unigolyn yw penderfynu manteisio ar y cynnig hwn neu beidio; ni ddylai neb holi’r Gwasanaeth TGCh a ddylent brynu’r feddalwedd neu beidio.