Arbedion Ffordd o Fyw a’r Carden Vectis.

Faint fyddwch chi’n ei arbed?

Manteisiwch ar yr holl gynigion a gostyngiadau sydd ar gael i chi. Mae Ceri+ yma i’ch helpu i arbed arian ar eich gwariant bob dydd a ffordd o fyw. Gallwch wneud arbedion ar eich siopa bwyd, gwyliau, wrth fwyta allan, DIY, nwyddau trydan, ceir a llawer mwy! Mae sawl ffordd o arbed arian ar rai o’ch hoff frandiau.

Sut mae cofrestru

Ewch i www.ceriplus.co.uk i gofrestru gan ddefnyddio’ch Rhif Gweithiwr a’r Rhif Adnabod y Cynllun. Os ydych chi’n ansicr o Rif Adnabod y cynllun, cysylltwch â adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk

Vectis Card

Mae’ch Vectis Card newydd yn ffordd ragorol o arbed arian mewn siopau lleol neu wladol yn eich ardal leol a ledled y DU. Does dim angen cofrestru’r cerdyn felly’r cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw dangos y cerdyn wrth brynu i dderbyn cynigion arbennig mewn rhai o’ch hoff leoliadau a siopau.
vectis-card

Ewch i’r wefan neu lawrlwythwch yr ap am restr o fanwerthwyr sy’n cymryd rhan.

Lawrlwythwch ap y Vectis Card i ddefnyddio’ch Vectis Card digidol drwy ddefnyddio Rhif Adnabod y Cynllun. Os ydych chi’n ansicr o Rif Adnabod y cynllun, cysylltwch â adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk

Ffyrdd eraill i arbed

Yn ogystal â chynigion y Vectis Card, gallwch arbed ar frandiau gwych trwy chynigion ar-lein gan gynnwys codau gostyngiad a gwefannau cyn-ostyngiad. Cliciwch yma am FAQ’s
Ewch i adran arbedion ffordd o fyw y wefan a chliciwch ar y tab ‘ways to save’ am ragor o wybodaeth am sut gallwch chi arbed ar y brandiau isod a mwy! Gallwch arbed hefyd gyda rhai manwerthwyr dros y ffôn a drwy brynu tocynnau anrheg am bris gostyngol.

Am ragor o wybodaeth am ffyrdd o arbed arian, ewch i’n gwefan. Cewch yno hefyd fanylion y cynigion diweddaraf a gorau sydd gennym. Gobeithio eich bod yn mwynhau arbed arian bob dydd gyda’r cynllun hwn.
brands