Sut i Weld/Ychwanegu/Diwygio eich Cais am Gostau Teithio
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn dangos i chi sut mae gweld y wybodaeth am eich Tâl a Buddiannau ar system hunan-wasanaeth Ceri.
Ychwanegu Cais am Gostau Teithio
- Er mwyn ychwanegu cais am gostau teithio cliciwch ar y botwm Ychwanegu cais
- Bydd ffenestr newydd yn ymddangos yn awr a bydd gofyn i chi gwblhau’r canlynol:
- Dyddiad Dechrau: Y dyddiad dechrau yw dyddiad cyntaf y mis yr ydych yn gwneud cais amdano neu ddyddiad cychwyn eich cyflogaeth os ydych yn gwneud cais am y mis hawlio hwnnw
- Teitl y Swydd: Dewiswch y teitl swydd perthnasol o’r gwymplen y mae’r cais yn berthnasol iddo
- Templed Cais: Dewiswch Mileage Claim o’r gwymplen
- Cliciwch ar Newydd ar ôl cwblhau’r meysydd i gyd
- Bydd ffurflen Milltiroedd a Threuliau yn ymddangos i chi ei llenwi
- Dilynwch y canllawiau ar y sgrin ar sut i gwblhau pob tudalen sy’n rhan o’r cais
Nodyn: Dylech gyflwyno un cais yn unig am bob mis calendr a dim ond dyddiadau yn y mis hwnnw ddylai fod ar y cais hwnnw
Cadw Cais am Gostau Teithio
Mae’n bosibl cadw cais am gostau teithio a pheidio â’i gyflwyno
- Cliciwch ar Cadw Drafft ar unrhyw adeg yn ystod y mis hawlio
- Statws Dros Dro fydd i’ch cais bryd hyn a bydd yn bosibl mynd ato rywbryd eto er mwyn diwygio/ychwanegu llinellau i’r cais cyn ei gyflwyno.
Cyflwyno Cais am Gostau Teithio
Er mwyn cyflwyno cais am gostau teithio bydd gofyn i chi:
- Glicio ar Cyflwyno ar y ffurflen hawlio
- Gofynnir i chi roi eich cyfrinair i mewn – yr un cyfrinair â’ch cyfrinair Ceri yw hwn
- Bydd opsiwn i chi hefyd ychwanegu eich derbynebau Tanwydd yma. Ers 01.04.2019 mae’n orfodol eich bod yn lanlwytho derbynebau tanwydd ar Ceri
- Dylai statws ‘Aros am awdurdodiad’ fod i’ch cais am gostau teithio yn awr yn barod i’w ‘Awdurdodi’ a bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at y rheolwr a’r gweithiwr
Diwygio Cais am Gostau Teithio a Gyflwynwyd
Pan fydd cais am gostau teithio wedi’i gyflwyno a bod iddo statws ‘Aros am Awdurdodiad’, mae’n bosibl diwygio’r cais o hyd
- Cliciwch ar y cais am gostau teithio perthnasol
- Cliciwch Canslo
- Bydd y Cais am gostau teithio yn mynd yn ôl i’w statws Dros Dro a bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at y rheolwr a’r gweithiwr
- Cliciwch ar y Cais am gostau teithio perthnasol unwaith eto er mwyn ei ddiwygio
- Cliciwch ar Cyflwyno
- Bydd y Cais am gostau teithio yn mynd yn ôl unwaith eto i’w statws ‘Aros am Awdurdodiad’
Chwilio am Gais am Gostau Teithio
Er mwyn chwilio am Geisiadau am gostau teithio a awdurdodwyd:
- Cliciwch ar y Chwyddwydr wrth ymyl Ychwanegu Cais
- Cliciwch ar Chwilio i adalw pob cais neu gallwch ddewis ystod o ddyddiadau er mwyn adalw ceisiadau penodol
Atodi Derbynneb i gais a Awdurdodwyd (gorfodol ar gyfer pob cais ers 01.04.2019).
- Cliciwch ar y Chwyddwydr wrth ymyl Ychwanegu Cais
- Cliciwch ar Chwilio i adalw pob cais neu gallwch ddewis ystod o ddyddiadau er mwyn adalw ceisiadau penodol
- Cliciwch ar y Clip Papur i ychwanegu derbynneb
- Cliciwch ar Ychwanegu a bydd ffenestr newydd yn ymddangos
- Rhowch deitl sy’n berthnasol i’r cais ar y ddogfen
- Gallwch bori ffotograffau neu ddogfennau a sganiwyd ac a gadwyd drwy glicio ar y botwm ‘Dewis ffeil’.