Sut i gweld ‘Manylion Personol’
Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld y wybodaeth am eich Manylion Personol ar system hunan-wasanaeth Ceri.
Gweld Fy Manylion Personol
Mae’n bosibl gweld dolenni i’r hyn a ganlyn yn yr adran Fy Manylion Personol:
- Fy Manylion Personol – Golwg ar rai manylion personol y gellir eu darllen yn unig a geir yma, gan gynnwys Enw, Teitl a Dyddiad Geni Mae’n bosibl diwygio rhai meysydd gan gynnwys Enw a Ffefrir, Statws Partneriaeth a Manylion ynghylch Gwirfoddoli Mewn Argyfwng.
- Manylion Monitro Cydraddoldeb – Ffurflen wirfoddol yw hon er mwyn cadw gwybodaeth sensitif ar gyfer monitro a chydraddoldeb
Diben y ffurflen Manylion Monitro Cydraddoldeb yw cadw’r wybodaeth ddiweddaraf i’n galluogi i asesu effaith ein polisïau a’n harferion recriwtio a chyflogi, a’u gwella lle bo modd. Bydd y manylion a gyflwynir gennych yn ein cynorthwyo i gwrdd â’n dyletswydd statudol i fonitro a chyhoeddi data cydraddoldeb yn flynyddol. - Anghenion Arbennig – Caiff y ffurflen hon ei defnyddio i ddal unrhyw ofynion arbennig a chyfyngiadau symudedd, a rhoddir ystyriaeth iddynt wrth i chi fynd ar unrhyw gyrsiau hyfforddiant mewnol.