Defnyddio Hunan-wasanaeth Ceri ar iPad neu ddyfais tabled arall

Mae’r erthygl hon yn darparu cyngor ac arfer gorau ar ddefnyddio Hunan-wasanaeth Ceri ar iPad neu ddyfais tabled arall.

Crynodeb

Mae Hunan-wasanaeth Ceri yn wefan sydd ar gael ar ystod eang o borwyr ar bob tabled neu dyfeis symudol. Yn dilyn profiad ein gweithwyr o ddefnyddio’r system, rydym wedi datblygu rhestr o ganllawiau arfer dda i sicrhau eich bod chi’n derbyn profiad defnyddiwr fel y bwriedir..

Cysylltiad Rhyngrwyd

wifi_icon_shutterstock

Bydd Hunan-wasanaeth Ceri yn gweithio dros WiFi neu cysylltiadsymudol, fodd bynnag, gall newid rhwng y ddau fath o gysylltiad yn ystod un sesiwn ar hunan-wasanaeth achosi problemau.

Borwr Chrome

unnamed

Rydym yn argymell defnyddio porwr Google Chrome lle bo hynny’n bosibl yn hytrach nag unrhyw borwyr dyfais penodol megis Apple’s Safari.

I lawrlwytho Google Chrome ewch i’ch App Store ar eich dyfais a chwilio am ‘Google Chrome’. Mae’r app yn rhad ac am ddim, fodd bynnag bydd angen eich manylion mewngofnodi dyfais er mwyn eu lawrlwytho. Ar gyfer dyfeisiau a gyhoeddir gan Gyngor Sir Ceredigion, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth TGCh ar estyniad 3205 neu servicedesk@ceredigion.gov.uk os oes gennych unrhyw broblemau.

Cyfeiriadedd Dyfais

41092-ipadmini_teaser1

Rydym yn argymell defnyddio Hunan-wasanaeth Ceri yn y modd tirlun bob amser, yn enwedig gydag unrhyw ffurflenni cais neu daflen amser.

Cofio Enw Defnyddiwr a Chyfrinair

Bydd rhai dyfeisiau / porwyr yn gofyn os ydych am gofio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair am y tro nesaf y byddwch chi’n ymweld â’r safle. Fe fyddem bob amser yn argymell eich bod yn dewis ‘Na’ neu ‘Peidiwch byth â’r safle hwn’ pan roddir yr opsiwn hwn i osgoi unrhyw broblemau mewngofnodi.