Iechyd Menywod

Menopos

Mae tua 1 o bob 3 menyw naill ai wedi profi neu wrthi’n mynd drwy’r mislif.

Er nad yw rhai merched yn profi anawsterau o ganlyniad i’r mislif, bydd tua 8 o bob 10 o fenywod yn profi symptomau amlwg ac o’r rhain bydd 45 y cant yn cael trafferth i ddelio â’u symptomau. Dywed llawer o fenywod y gall amgylchedd ac arferion yn y gweithle wneud y symptomau’n waeth.

Yn draddodiadol, mae’r mislif wedi cael ei ystyried yn fater preifat neu’n ‘ fater i fenywod ‘ ac yn aml nid yw’n bwnc sy’n cael ei drafod yn agored neu sydd wedi’i ystyried wrth gynllunio gweithleoedd ac arferion gwaith.

Mislif TUC Cymru

Podlediadau

Apiau

Gwefannau Defnyddiol

Gofal y Fron

Endometriosis

Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe tebyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill, fel yr ofarïau a’r tiwbiau falopaidd.

Gall endometriosis effeithio ar fenywod o unrhyw oedran, gan gynnwys rhai yn eu harddegau.

Mae’n gyflwr hirdymor a all gael effaith sylweddol ar eich bywyd, ond mae triniaethau ar gael sy’n gallu helpu.

> Endometriosis – NHS