Gwyliau

Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â gwyliau blynyddol pob gweithiwr wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Cenedlaethol ar gyfer cyflogau ac amodau Gwasanaethau Llywodraeth Leol, ynghyd ag unrhyw gytundebau lleol a wnaethpwyd drwy drafodaethau â’r undebau llafur cydnabyddedig at ddibenion cydfargeinio ar gyfer eich grŵp cyflogaeth.

Gwasanaeth di-dor

At ddibenion asesu gwasanaeth di-dor, caiff pob gwasanaeth blaenorol gydag awdurdodau cyhoeddus sy’n cael eu cydnabod yn gyflogwyr at ddibenion gwasanaeth di-dor o dan y cytundeb cenedlaethol sy’n berthnasol i’ch grŵp cyflogaeth ei gynnwys yn y cyfanswm ar y gyfradd lawn. Yn ogystal, bydd gwasanaeth gydag Awdurdod Iechyd hefyd yn cael ei gydnabod fel cyflogwr gwasanaeth parhaus at ddibenion cyfrifo gwyliau blynyddol a hawliau salwch.  Ni fydd hawl gan neb a gyflogir o’r tu mewn i’r gwasanaeth llywodraeth leol i unrhyw wyliau a gronnwyd pan oedd yn gweithio i’r awdurdod blaenorol.

Dechrau yn y Cyngor

Os ydych yn ymuno â Chyngor Sir Ceredigion yn ystod blwyddyn wyliau, bydd gennych yr hawl i gyfran o’ch gwyliau blynyddol ac unrhyw wyliau banc (pro rata lle bo angen) sy’n syrthio yn ystod gweddill y flwyddyn wyliau.

Gadael y Cyngor

Os ydych yn gadael cyflogaeth Cyngor Sir Ceredigion yn ystod blwyddyn wyliau, bydd gennych hawl i unrhyw wyliau blynyddol a gronnwyd hyd nes y dyddiad y daw’r gyflogaeth i ben. Dylid trefnu i gymryd y gwyliau hynny cyn y dyddiad y daw’r gyflogaeth i ben. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol iawn y byddwn yn gwneud taliad yn lle gwyliau (dim mwy na phum diwrnod CGLl fel rheol – 37 awr). Nid oes hawl statudol i gael tâl am oriau hyblyg sydd wedi’u cronni pan fyddwch yn terfynu’ch cyflogaeth chi gyda’r Awdurdod.

Os ydych chi eisoes wedi cymryd mwy o wyliau neu oriau hyblyg na’r hyn y mae gennych hawl iddynt, byddwn yn eu hawlio yn ôl o’ch tâl cyflog terfynol.

Yr Hawl i Wyliau Blynyddol

Mae’r flwyddyn wyliau’n estyn o 1 Medi tan 31 Awst ar gyfer pob cyflogai.

Mae gan weithwyr rhan-amser hawl i wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau cyhoeddus) ar sail pro rata.

Staff Amser Llawn

Llai na 5 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 199.8 awr 27 diwrnod
Dros 5 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 229.0 awr 31 diwrnod
Ar ôl 15 mlynedd ond llai nag 20 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 236.4 awr 32 diwrnod
Ar ôl 20 mlynedd ond llai nag 25 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 244.2 awr 33 diwrnod
Ar ôl 25 mlynedd ond llai nag 30 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 251.6 awr 34 diwrnod
Ar ôl 30 mlynedd ond llai nag 35 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 259.0 awr 35 diwrnod
Ar ôl 35 mlynedd ond llai nag 40 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 266.4 awr 36 diwrnod
Ar ôl 40 mlynedd ond llai nag  45 mlynedd o Wasanaeth di-dor mewn Llywodraeth Leol 273.8 awqr 37 diwrnod

Mae’r uchod yn cynnwys 3 diwrnod o wyliau blynyddol (22.2 awr CGLl) sefydlog sy’n rhaid eu cymryd fel y pennir gan y Cyngor yn ystod cyfnod Gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd oni hysbysir fel arall.

Staff Tymor yn unig

Mae patrwm gwaith nifer o staff cymorth yr ysgolion wedi ei seilio ar dymor yr ysgol. I’r gweithwyr hynny, mae eu hawl i wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus wedi’i hymgorffori yn eu tâl.

Staff Wrth Gefn

Caiff tâl gwyliau ar gyfer gweithwyr dros dro ei gyfrifo’n ôl-ddyledus bob mis.

Gwyliau cyhoeddus

Yn ogystal â gwyliau blynyddol mae pob gweithiwr yn cael 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus y flwyddyn. Mae’r rhain yn gysylltiedig â’r diwrnodau canlynol:

Dydd Calan 1
Dydd Gwener y Groglith, Dydd Llun y Pasg 2
Calan Mai 1
Dydd Banc y Gwanwyn 1
Gŵyl Banc Awst 1
Diwrnod Nadolig, Gŵyl San Steffan 2

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser caiff eich hawl chi i wyliau ei chyfrifo pro rata.

Cymryd gwyliau

Bydd angen i chi gytuno ar eich gwyliau gyda’ch rheolwr llinell cyn cymryd unrhyw wyliau.

Dylid cyflwyno pob cais am wyliau blynyddol trwy Hunanwasanaeth CERi heblaw am achosion eithriadol.

Dylech sicrhau bod eich gwyliau wedi’u hawdurdodi cyn eu trefnu oherwydd ni chânt eu caniatáu bob tro oherwydd anghenion y gwasanaeth. Gall rheolwyr bennu rotas gwyliau i sicrhau bod digon o weithwyr ar gael i gynnal gwasanaeth priodol.

Mae gwyliau rhai gweithwyr sy’n gweithio yn ystod y tymor wedi eu hymgorffori yn eu tâl.

Ceir canllawiau ynghylch cyflwyno cais am wyliau blynyddol trwy Hunanwasanaeth CERi yn Sylfaen Wybodaeth Ceri.

Dwyn gwyliau ymlaen

Mae’n rhaid i chi gymryd o leiaf 28 o ddiwrnodau CGLl o wyliau bob blwyddyn (207.2 awr). Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol. Mae’r 28 diwrnod yn cynnwys gwyliau cyhoeddus. Gallwch ddwyn ymlaen hyd at 5 diwrnod o’ch hawl i wyliau yn awtomatig i’r flwyddyn wyliau nesaf (37 awr).

Petaech, mewn achosion eithriadol, am ddwyn ymlaen mwy na 5 diwrnod, bydd angen cyflwyno cais i’r Pennaeth Gwasanaeth.  Rhaid cwblhau’r templed atodol, gan ddanfon ceisiadau a awdurdodwyd, at y Tîm Adnoddau Dynol. Bryd hynny, caiff y manylion ei addasu ar system wyliau Ceri.

Ffurflen trosglwyddo gwyliau blynyddol

Nid oes dim trefniadau ar gyfer cael tâl yn lle gwyliau ac eithrio pan gaiff swydd ei therfynu gyda’r Awdurdod.

Bydd rheolwyr yn monitro’r gwyliau sy’n cael eu dwyn ymlaen yn eu gwasanaethau’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod pob gweithiwr yn cymryd nifer statudol sylfaenol o 28 o ddiwrnodau o wyliau y flwyddyn.

Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau

Ceir mwy o wybodaeth am wyliau yn y Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau.