Absenoldeb Arbennig
Mae’r Cyngor yn cydnabod bod adegau/amserau pan fo rhaid wrth gyfnod byr o amser o’r gwaith sydd y tu allan i’r hawl i wyliau, a bydd yn ymdrechu i roi cymorth i’r staff gael cydbwysedd rhwng eu gwaith ac amgylchiadau personol.
Mae rhesymau dros absenoldeb a gydnabyddir gan y Cyngor yn cynnwys:
- Mynychu’r llys
- Mynychu Cyrff Llywodraethu
- Dyletswyddau ynad
- Aelodaeth o Awdurdodau Lleol
- Gwasanaeth Rheithgor
- Gwasanaeth mewn Lluoedd Afreolaidd
- Gwasanaethau Brys ac Achub
- Amser o’r gwaith ar gyfer cyfweliadau
- Amser o’r gwaith i gael triniaeth IVF
- Cynrychioli’r sir mewn digwyddiadau chwar-aeon, elusennol neu ddigwyddiadau eraill
- Parchu crefyddau a diwylliannau
Cyfeiriwch at y Polisi Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith am fanylion pellach.