Gadael Cyngor Sir Ceredigion
Ymddiswyddo
Mae cyfnod y rhybudd ymadael y mae’n rhaid i chi ei roi i’r Cyngor er mwyn terfynu eich cyflogaeth fel a ganlyn:
Ar gyfer gweithwyr ar Radd 1 – 9: 4 wythnos
Ar gyfer gweithwyr ar Radd 10 ac uwch: 12 wythnos.
Dyma leiafswm y rhybudd y mae’n ofynnol i chi ei roi. Wrth gwrs, byddai’n ddefnyddiol iawn i’r Cyngor pe gallech roi cyfnod rhybudd hwy.
Dylai’ch rhybudd ymddiswyddo fod yn ysgrifenedig a’i gyfeirio at eich rheolwr ac anfon copi at eich Rheolwr Adnoddau Dynol.
Rhybudd Ymadael gan y cyflogwr
Mae’r cyfnod rhybudd y mae’n ofynnol i’r Cyngor ei roi i chi er mwyn terfynu eich cyflogaeth fel a ganlyn:
Gwasanaeth Di-dor | Cyfnod rhybudd |
Un mis neu fwy ond yn llai na dwy flynedd | 1 wythnos |
Dwy flynedd neu fwy ond yn llai na 12 mlynedd | 1 wythnos am bob blwyddyn o wasanaeth di-dor |
12 mlynedd a mwy | Uchafswm o 12 wythnos |
At ddibenion asesu gwasanaeth di-dor, caiff pob gwasanaeth gydag awdurdod cyhoeddus blaenorol sy’n cael ei gydnabod fel cyflogwr gwasanaeth di-dor o fewn y cytundeb cenedlaethol ar gyfer eich grŵp cyflogaeth ei gynnwys yn y cyfanswm ar y gyfradd lawn.
Diswyddo diannod
Diswyddo diannod yw diswyddo gweithiwr heb rybudd. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, yn fwyaf arbennig pan fydd gweithiwr wedi ymddwyn mewn ffordd sydd mor wael y gellid ei gategoreiddio yn “gamymddwyn difrifol”, fydd diswyddo heb rybudd wedi’i gyfiawnhau. Os yw diswyddo syth wedi’i gyfiawnhau mae eithriad penodol rhag unrhyw ofyniad i roi rhybudd (ERA 1996 adran 86(6)).
Mae camymddwyn difrifol yn cael ei ystyried yn fath o gamymddwyn sy’n groes i’r berthynas gytundebol sylfaenol rhwng y gweithiwr a’r cyflogwr ac sy’n cyfiawnhau bod y rheolwyr yn gwrthod derbyn presenoldeb parhaus y gweithiwr yn y lle gwaith. Cewch fanylion pellach yn y Polisi Disgyblu sydd ar gael yma.
Ymddeol
Yn unol â deddfwriaeth ddiweddar nid oes unrhyw oedran gorfodol gan y Cyngor.
Mae’r Cyngor yn darparu cyrsiau hyfforddi cyn-ymddeol i weithwyr sy’n agosáu at oedran ymddeol.
Diswyddo
Mae newid yn rhan o fywyd ac o bryd i’w gilydd bydd rhaid newid swyddi a gwasanaethau a allai olygu bod angen diswyddo. Yn yr amgylchiadau hynny byddwn yn ceisio gwneud hyn mewn ffordd deg, gan ddarparu cyngor a chymorth i chi os ydych mewn perygl.
I gael rhagor o wybodaeth cyfeiriwch at y Polisi Rheoli Newid sydd ar gael yma.
Gwyliau / Oriau hyblyg
Cyn gadael, fel rheol disgwylir i chi gymryd eich gwyliau cyn eich diwrnod olaf yn y gwaith. Fodd bynnag, os nad oeddech yn gallu cymryd eich gwyliau cyfan oherwydd gofynion gwasanaeth cewch eich ad-dalu yn unol â’ch taliad cyflog terfynol.
Os ydych eisoes wedi cymryd mwy o wyliau neu oriau hyblyg nag y mae hawl gennych i’w cael, byddwn yn eu hawlio yn ôl o’ch tâl cyflog terfynol.
Nid oes unrhyw hawl statudol i gael tâl am oriau hyblyg wedi’u cronni pan fyddwch yn terfynu’ch cyflogaeth â’r Awdurdod..
Cyfrinachedd
Ar ôl i’ch cyflogaeth â’r Cyngor ddod i ben, ni ddylech ddatgelu i unrhyw unigolyn neu sefydliad unrhyw wybodaeth a gawsoch yn ystod eich cyflogaeth sy’n ymwneud â’r Cyngor, ei fusnes, ei gwsmeriaid neu ei gleientiaid, heb gael caniatâd ysgrifenedig y Prif Weithredwr yn gyntaf.
Ni fydd y cymal hwn, fodd bynnag, yn eich atal rhag datgelu gwybodaeth i gydymffurfio â Gorchymyn Llys neu gyflawni unrhyw ddyletswydd statudol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau o dan Bolisi Chwythu’r Chwiban y Cyngor.
Cyfweliad ymadael
Pan fyddwch yn ein gadael ni cewch eich gwahodd i gael cyfweliad ymadael. Mae hwn yn rhoi cyfle i chi gael dweud eich dweud ynghylch pam rydych yn gadael a bydd yn ein helpu ni i gynllunio a gwella ein gwasanaethau yn y dyfodol.
Trosglwyddo
Bydd y gweithiwr sy’n ymadael a’i reolwr yn cynnal trosglwyddiad ffurfiol a fydd yn cynnwys trosglwyddo gwaith parhaus a dychwelyd eiddo’r Cyngor, e.e. ffôn symudol, allweddi, cyfrifiaduron llaw, gliniaduron, cerdyn adnabod a dillad.
Dylid darparu cyfeiriad anfon ymlaen hefyd.