Canllawiau ar Ddogfennau Adnabod y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwladolion y DU

Rhaid i wiriad adnabod gael ei wneud wyneb yn wyneb a rhaid iddo gynnwys dogfennau gwreiddiol i gyd. 

 Dylid cyflwyno dogfennau i’w gwirio yn un o’n Canolfannau Cyswllt Cwsmeriaid:


Aberystwyth

Canolfan Alun R. Edwards

Sgwâr y Frenhines

Aberystwyth

SY23 2EB

01970 633717

Dydd Llun – Dydd Gwener 09:30 – 16:00


Llanbedr Pont Steffan

Stryd y Farchnad

Llanbedr Pont Steffan

SA48 7DR

01570 423606

Agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 09:30 – 16:30


Aberaeron

Neuadd y Sir

Stryd y Farchnad

Aberaeron

SA46 0AT

01545 572500

Agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 09:30 – 16:00


Aberteifi

Swyddfa’r Cyngor

Stryd Morgan

Aberteifi

SA43 1DG

01545 574110

Agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 09:30 – 16:00

Os cewch anhawster i gael mynediad i un o’n Canolfannau Cyswllt Cwsmeriaid, cysylltwch â ni ar 01970 633949 neu e-bost:  adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk


Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus.  Os cyflwynir dogfennau anghywir, mae’n bosib y bydd rhaid i chi ymweld â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid fwy nag unwaith.

Dylech gyflwyno o leiaf TAIR dogfen adnabod a fydd yn cadarnhau eich ENW (ac unrhyw newid enw), DYDDIAD GENI a’ch CYFEIRIAD PRESENNOL. Dyma’r dogfennau sydd eu hangen arnom:

  • Rhaid i UN ddogfen fod o Grŵp 1*
  • ADWY ddogfen arall o naill ai Grŵp 1, 2a neu 2b
  • Rhaid i’r ddogfen sy’n cadarnhau eich cyfeiriad presennol fod wedi’i PHOSTIO i’r cyfeiriad hwnnw o fewn y 3 mis diwethaf.
  • Rhaid i bob dogfen fod yn gyfredol a dilys.

Os ydych chi’n ansicr am y dogfennau y mae’n rhaid i chi eu cyflwyno, ffoniwch 01970 633949 neu anfonwch e-bost i: adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk a byddwn yn fwy na pharod i’ch cynghori ar y dogfennau sydd eu hangen arnom.


Grŵp 1: Y prif ddogfennau adnabod

Dogfen Nodiadau
Pasbort Unrhyw basbort cyfredol a dilys
Trwydded breswylio fiometrig DU
Cerdyn llun trwydded yrru gyfredol – (llawn neu dros dro) **Nodwch RHAID i’ch Trwydded Yrru gael eich enw a’ch cyfeiriad presennol** DU, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel. O 8 Mehefin 2015, ni fydd y papur cyfatebol i’r drwydded yrru cerdyn llun yn ddilys ac ni fydd DVLA yn ei gyhoeddi mwyach
Tystysgrif geni – a gyhoeddwyd o fewn 12 mis i’w geni DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel – gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan awdurdodau’r DU dramor, er enghraifft llysgenadaethau, Uchel Gomisiynau a Lluoedd Ei Mawrhydi
Tystysgrif mabwysiadu Ynysoedd y Sianel a’r DU

Grŵp 2a: Dogfennau llywodraeth ddibynadwy

Dogfen Nodiadau
Cerdyn llun trwydded yrru gyfredol – (llawn neu dros dro)
Trwydded yrru gyfredol (llawn neu dros dro) – fersiwn bapur (os caiff ei chyhoeddi cyn 1998)
**Nodwch RHAID i’ch Trwydded Yrru gael eich enw a’ch cyfeiriad presennol**
Pob gwlad y tu allan i’r DU (ac eithrio Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel)
DU, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel
Tystysgrif geni – a gyhoeddwyd ar ôl yr amser geni DU, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil Ynysoedd y DU a’r Sianel
Dogfen mewnfudo, fisa, neu drwydded gwaith Cyhoeddwyd gan wlad y tu allan i’r DU. Mae’n ond yn ddilys ar gyfer rolau lle mae’r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio y tu allan i’r DU. Rhaid i fisa/trwydded fod yn berthnasol i wlad y tu allan i’r DU lle mae’r rôl wedi’i lleoli.
Cerdyn adnabod Lluoedd EM DU
Trwydded arfau tanio DU, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel

Grŵp 2b: Dogfennau hanes ariannol a chymdeithasol

Dogfen Nodiadau Dyddiad cyhoeddi a dilysrwydd
Datganiad morgais DU Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu
Cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu
Ynysoedd y Sianel a’r DU
Gwledydd y tu allan i’r DU
Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Cyhoeddwyd yn y 3 mis diwethaf – rhaid bod y gangen mewn gwlad lle mae’r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio ynddi
Llythyr cadarnhau agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu DU Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Datganiad cerdyn credyd DU Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Datganiad ariannol, er enghraifft pensiwn neu bolisi gwaddol DU Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Datganiad P45 neu P60 Ynysoedd y Sianel a’r DU Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Datganiad Treth y Cyngor Ynysoedd y Sianel a’r DU Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Llythyr nawdd gan ddarparwr cyflogaeth yn y dyfodol Y tu allan i’r DU yn unig – yn ddilys ar gyfer ymgeiswyr sy’n byw y tu allan i’r DU yn unig ar adeg cyflwyno cais Rhaid bod yn ddilys o hyd
Bil cyfleustodau DU – nid bil ffôn symudol Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Datganiad budd-dal, er enghraifft Budd-dal Plant, pensiwn DU Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Llywodraeth ganolog neu leol, asiantaeth y llywodraeth, neu ddogfen cyngor lleol sy’n rhoi hawl, er enghraifft yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaeth Cyflogi, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Ynysoedd y Sianel a’r DU Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Cerdyn adnabod cenedlaethol yr AEE Rhaid bod yn ddilys o hyd
Cerdyn Pasbort Gwyddelig Does dim modd ei ddefnyddio gyda phasbort Gwyddelig Rhaid bod yn ddilys o hyd
Cardiau gyda logo achredu PASS DU, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel Rhaid bod yn ddilys o hyd
Llythyr gan Brifathro neu Bennaeth Coleg Y DU – ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed mewn addysg amser llawn – i’w ddefnyddio ond mewn amgylchiadau eithriadol os na ellir darparu dogfennau eraill Rhaid bod yn ddilys o hyd