Tâl Gwyliau Cyfartalog – Ymatebion
Crynodeb
Derbyniwyd yr ymatebion canlynol:
| Nifer yr Ymatebion | |
| Ymatebion a oedd yn cytuno â’r cynnig | 2 |
| Ymatebion nad oedd yn cytuno â’r cynnig | 1 |
| Cyfanswm | 3 |
Ymatebion
Er mwyn bod yn gwbl agored a chlir, mae’r ymatebion a dderbyniwyd wedi eu crynhoi/eu grwpio lle bo hynny’n bosibl. Mae’n bosibl, felly, bod yr ymateb a nodwyd yn y tabl isod wedi ei aralleirio.
| Ymateb | Ateb |
| Yn cytuno
Rwy’n cytuno â’r hawl arfaethedig newydd ac yn ei chefnogi. |
Mae’r sylw yn cael ei werthfawrogi ac mae wedi ei nodi. |
| Ôl-daliad
A fydd y rhai sydd ar gytundeb dim oriau yn cael tâl wedi’i ôl-ddyddio? |
Na, bydd y broses newydd hon yn cael ei rhoi ar waith ar y dyddiad gweithredu ac yn parhau felly tua’r dyfodol. |
Penderfyniad
Gweithredu’r cynnig a bydd y newid yn dod i rym o 1 Ebrill 2021 ymlaen.